bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 1
Job 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 2 →
1
Un tro roedd dyn o'r enw Job yn byw yng ngwlad Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.
2
Roedd ganddo saith mab a thair merch.
3
A dyma restr o'i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.
4
Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o'r wythnos. Bydden nhw'n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw.
5
Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd trwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.
6
Un diwrnod dyma'r bodau nefol yn dod i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dyma Satan yn dod gyda nhw.
7
Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
8
A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”
9
Atebodd Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo!
10
Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o'i gwmpas i'w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a popeth sydd ganddo. Ti'n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae'n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi'r wlad i gyd!
11
Ond petaet ti'n cymryd y cwbl oddi arno, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”
12
Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i'w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.” Yna dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD.
13
Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ'r brawd hynaf.
14
A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a'r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw,
15
a dyma'r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda'r cleddyf. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
16
Tra roedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a'r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw — mae'r cwbl wedi mynd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
17
Tra roedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
18
A tra roedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di'n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ'r brawd hynaf,
19
ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro'r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a'u lladd nhw i gyd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
20
Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo ei ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â'i wyneb ar lawr,
21
a dweud: “Ces i fy ngeni heb ddim, a bydda i'n marw heb ddim. Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi, a'r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli!”
22
Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi'r bai ar Dduw.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42