bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 33
Job 33
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 34 →
1
Felly Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud. Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i.
2
Edrych, dw i am agor fy ngheg, a gadael i'm tafod ddweud ei dweud.
3
Dw i'n mynd i siarad yn onest, a dweud fy marn yn gwbl agored.
4
Ysbryd Duw luniodd fi; anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw.
5
Ateb fi, os wyt ti'n gallu; gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i.
6
Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd.
7
Felly does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.
8
Dyma wyt ti wedi ei ddweud, (clywais dy eiriau di'n glir):
9
‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le; dw i'n lân, a heb bechu.
10
Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn; mae'n fy nhrin i fel gelyn.
11
Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
12
Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam: Mae Duw yn fwy na dyn.
13
Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?
14
Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall — ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.
15
Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm; pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu.
16
Mae e'n gwneud i bobl wrando — yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
17
i beidio gwneud rhywbeth, a'u stopio nhw rhag bod mor falch.
18
Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth.
19
Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely a chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
20
Mae bwyd yn codi cyfog arno; does ganddo awydd dim byd blasus.
21
Mae wedi colli cymaint o bwysau, nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
22
Mae'n agos iawn at y bedd, bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
23
Ond os daw angel at ei ochr (dim ond un o'i blaid, un o blith y mil) i ddadlau ei hawl drosto —
24
yna bydd Duw yn drugarog wrtho. ‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd; dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
25
Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
26
Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando; bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb, a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
27
Bydd yn canu o flaen pobl, ‘Pechais, a gwneud y peth anghywir, ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu.
28
Mae e wedi fy achub o afael y bedd; dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
29
Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn drosodd a throsodd:
30
achub bywyd o bwll y bedd, iddo gael gweld goleuni bywyd.
31
Edrych, Job, gwranda arna i; gwrando'n dawel i mi gael siarad.
32
Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
33
Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i; gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42