bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 17
Job 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 18 →
1
Dw i wedi torri fy nghalon, mae fy nyddiau'n diffodd; dim ond y bedd sydd o'm blaen.
2
Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio, mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio.
3
Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i! Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan?
4
Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall, felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
5
Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau tra mae ei blant ei hun yn llwgu.
6
Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl; maen nhw'n poeri yn fy wyneb.
7
Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid, a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
8
Mae pobl dda yn methu credu'r peth, a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
9
Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur, a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
10
Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto! Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!
11
Mae fy mywyd ar ben, a'm cynlluniau wedi eu chwalu — pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
12
Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd! ‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!
13
Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd, a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
14
Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ —
15
Felly, ble mae fy ngobaith i? Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?
16
Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth? Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42