bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 34
Job 34
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 35 →
1
Yna dwedodd Elihw:
2
“Gwrandwch be dw i'n ddweud, chi ddynion doeth; Dych chi'n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud.
3
Mae'r glust yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd.
4
Gadewch i ni ystyried beth sy'n wir; a phenderfynu rhyngon beth sy'n iawn.
5
Mae Job wedi dweud, ‘Dw i'n ddieuog; dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi.
6
Fi sy'n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd? Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf, er fy mod heb droseddu.’
7
Oes rhywun tebyg i Job? Mae'n dangos dirmyg fel yfed dŵr!
8
Mae'n cadw cwmni cnafon ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg!
9
Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt byw i blesio Duw.’
10
Felly, gwrandwch chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le!
11
Mae e'n talu i bobl am yr hyn maen nhw'n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu!
12
Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg; dydy'r Un sy'n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.
13
Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal? Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd?
14
Petai'n dewis, gallai gymryd ei ysbryd a'i anadl yn ôl,
15
a byddai pob creadur byw yn marw, a'r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i'r pridd.
16
Gwranda, os wyt ti'n ddyn deallus; gwrando'n astud ar beth dw i'n ddweud.
17
Ydy rhywun sy'n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu? Wyt ti'n mynd i gondemnio'r Un Grymus a Chyfiawn
18
sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?
19
Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion, nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd; am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!
20
Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos; mae'r bobl fawr yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu; mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd.
21
Mae e'n cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud; mae'n gwybod am bob symudiad.
22
Does dim tywyllwch na chwmwl lle gall pobl ddrwg guddio.
23
Nid lle pobl ydy gosod amser i ddod o flaen Duw i gael eu barnu!
24
Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad, ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.
25
Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio.
26
Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg, ac yn gwneud hynny o flaen pawb,
27
am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo, a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd.
28
Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno, a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus.
29
Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu? Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo? Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,
30
rhag i rywun annuwiol deyrnasu a gosod maglau i'r bobl.
31
Ond os dywed rhywun wrth Dduw, ‘Dw i'n euog, a wna i ddim troseddu eto.
32
Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld. Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’
33
Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo, gan dy fod yn gwrthod gwrando? Ti sydd i ddewis, nid fi; Gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud.
34
Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i — unrhyw ddyn doeth sy'n gwrando arna i —
35
‘Mae Job wedi dweud pethau dwl; dydy ei eiriau'n gwneud dim sens.’
36
Dylai gael ei gosbi i'r eithaf am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.
37
Mae e wedi gwneud mwy na phechu — mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni, a chyhuddo Duw'n ddi-stop.”
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 35 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42