bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 40
Job 40
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 41 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Job.
2
“Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro? Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”
3
A dyma Job yn ateb:
4
“Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud? Dw i'n mynd i gadw'n dawel.
5
Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto. Dw i am ddweud dim mwy.”
6
Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
7
“Torcha dy lewys fel dyn! Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb.
8
Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn? Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?
9
Wyt ti mor gryf ag ydw i? Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?
10
Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi. Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.
11
Dangos i bawb mor ddig wyt ti; dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle.
12
Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw; sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!
13
Cladda nhw yn y llwch, a'u cloi nhw yn y bedd.
14
Gwna i gyfaddef wedyn dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!
15
Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti; mae e'n bwyta glaswellt fel ychen.
16
Edrych mor gryf ydy ei gluniau, ac ar gryfder cyhyrau ei fol.
17
Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd; mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd.
18
Mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn.
19
Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw; dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.
20
Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo, ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae.
21
Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog, o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.
22
Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod; a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.
23
Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo; mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.
24
All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio, neu wthio bachyn drwy ei drwyn?
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42