bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 5
Job 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 6 →
1
Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di? At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?
2
Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd, a'r person dwl pan mae'n dal dig.
3
Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio, ond yna'n sydyn roedd ei gartre wedi ei felltithio.
4
Dydy ei blant byth yn saff — byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.
5
Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau, a'i gario i ffwrdd i'w guddio; a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.
6
Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd, na thrafferthion yn egino o'r ddaear;
7
ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion, mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.
8
Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw, ac yn gosod fy achos o'i flaen.
9
Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!
10
Mae e'n anfon glaw i'r ddaear, ac yn dyfrio'r caeau.
11
Mae e'n codi'r rhai sy'n isel, ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.
12
Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys, i'w hatal rhag llwyddo.
13
Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw; mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.
14
Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd, ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!
15
Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon, a'r anghenus o afael y rhai cryf.
16
Felly mae gobaith i'r tlawd, ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!
17
Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr; felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!
18
Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf; Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.
19
Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall; chei di ddim niwed byth.
20
Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth, ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.
21
Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus; a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.
22
Byddi'n gwawdio dinistr a newyn, a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion.
23
Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir, a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti.
24
Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel, ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.
25
Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant; bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.
26
Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd, fel ysgub o wenith yn cael ei gasglu yn ei dymor.
27
Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir. Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42