bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 36
Job 36
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 37 →
1
A dyma Elihw yn mynd ymlaen i ddweud:
2
“Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig, mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
3
Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell, a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
4
Wir i ti, heb air o gelwydd, mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
5
Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus; mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
6
Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw; mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
7
Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'n eu hanrhydeddu nhw, a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.
8
Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion, wedi eu rhwymo â rhwydi gorthrwm,
9
mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhw i droseddu, a bod mor haerllug.
10
Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu, a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.
11
Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo, byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau, ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.
12
Ond os na fyddan nhw'n gwrando, byddan nhw'n croesi afon marwolaeth, ac yn darfod heb ddeall dim.
13
Mae pobl annuwiol yn dal dig; dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
14
Maen nhw'n marw'n ifanc, ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr.
15
Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl, ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.
16
Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid, o'r gornel gyfyng i le agored; at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.
17
Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg, a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.
18
Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth, ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.
19
Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul? Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!
20
Paid dyheu am y nos, pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.
21
Gwylia rhag troi at y drwg — dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.
22
Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol; Pwy sy'n athro tebyg iddo?
23
Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud? Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?
24
Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith, sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân.
25
Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith, mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.
26
Ydy, mae Duw yn fawr — y tu hwnt i'n deall ni; does dim modd cyfri hyd ei oes e!
27
Mae'n codi dafnau o ddŵr sy'n diferu'n law mân fel tarth.
28
Mae'r cymylau'n tywallt y glaw, mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.
29
Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu, a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?
30
Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas, ac yn goleuo gwaelod y môr.
31
Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd, ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw.
32
Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo, ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed.
33
Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dod mewn storm, yn angerdd ei lid.
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 37 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42