bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 29
Job 29
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
1
Yna aeth Job yn ei flaen i ddweud:
2
“O na fyddai pethau fel yr oedden nhw o'r blaen, pan oedd Duw yn gofalu amdana i.
3
Roedd golau ei lamp uwch fy mhen, ac ro'n i'n cerdded drwy'r tywyllwch yn ei olau e.
4
Roedd popeth yn mynd yn iawn, ac roedd Duw fel ffrind agos i'r teulu.
5
Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny, a'm plant i gyd o'm cwmpas i.
6
Ro'n i'n byw yn fras — ar ben fy nigon, roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.
7
Ro'n i'n cerdded drwy giât y ddinas, ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.
8
Roedd dynion ifanc yn camu o'r ffordd i mi, a'r dynion hŷn yn codi ar eu traed.
9
Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafod, ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau.
10
Roedd y swyddogion yn cadw'n dawel, fel petai eu tafod wedi glynu wrth dop y geg.
11
Roedd pawb oedd yn gwrando arna i yn canmol, a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda,
12
am fy mod i'n achub y tlawd oedd yn galw am help, a'r plentyn amddifad oedd heb neb i'w helpu.
13
Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio, ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen.
14
Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i, a thegwch fel mantell a thwrban.
15
Ro'n i'n llygaid i'r dall ac yn draed i'r cloff.
16
Ro'n i'n dad i'r rhai mewn angen, ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr.
17
Ro'n i'n dryllio dannedd y dyn drwg, ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth.
18
Dyma roeddwn i'n ei dybio: ‘Bydda i'n aros gyda'm teulu nes i mi farw, ac yn cael byw am flynyddoedd lawer.
19
Bydda i fel coeden a'i gwreiddiau'n cyrraedd y dŵr, a'r gwlith yn aros ar ei changhennau.
20
Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu, a'm bwa yn newydd yn fy llaw.’
21
Roedd pobl yn gwrando'n astud arna i, ac yn cadw'n dawel wrth i mi roi cyngor.
22
Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i'w ddweud — roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau.
23
Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law, disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn.
24
Pan fyddwn i'n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau; doedden nhw ddim eisiau fy nigio i.
25
Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben; ron i fel brenin yng nghanol ei filwyr; ron i'n cysuro'r rhai sy'n galaru.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42