bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 2
Job 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 3 →
1
Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
2
Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
3
A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”
4
Atebodd Satan, “Croen am groen! — mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau!
5
Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”
6
Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.”
7
Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl.
8
A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel.
9
Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”
10
Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.
11
Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naäma. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro.
12
Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo eu dillad ac yn taflu pridd i'r awyr.
13
Buon nhw'n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw'n gweld ei fod e'n dioddef yn ofnadwy.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42