bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 22
Job 22
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 23 →
1
A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:
2
“All person dynol fod o unrhyw help i Dduw? Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo?
3
Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog? Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?
4
Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol? Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?
5
Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg, ac wedi pechu'n ddiddiwedd!
6
Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos, a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.
7
Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed, na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.
8
Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tir ac yn byw arno, ac mor freintiedig;
9
ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim, ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad.
10
Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma, ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.
11
Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim, ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!
12
Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod? Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!
13
Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod? Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?
14
Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddio wrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’
15
Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyll mae pobl annuwiol wedi ei cherdded? —
16
Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser, pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.
17
Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’ a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’
18
Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! — Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!
19
Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen; mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw.
20
‘Mae'r rhai cas wedi eu dinistrio, a'u cyfoeth wedi ei losgi gan dân.’
21
Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch, wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti.
22
Derbyn beth mae e'n ceisio'i ddysgu i ti, a thrysora ei neges yn dy galon.
23
Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer. Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn.
24
Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd; aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant,
25
yna yr Un sy'n rheoli popeth fydd dy aur di, fe fydd fel arian gwerthfawr.
26
Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio, a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw.
27
Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti, a byddi'n cadw dy addewidion iddo.
28
Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo, a bydd golau yn disgleirio ar dy ffyrdd.
29
Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’ a bydd Duw yn achub y digalon.
30
Bydd hyd yn oed yn achub yr euog; bydd yn dianc am fod dy ddwylo di'n lân.”
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42