bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 42
Job 42
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
1
Dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD:
2
“Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.
3
‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn deall dim?’ meddet ti. Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall; pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.
4
‘Gwranda arna i, a gwna i siarad; Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.
5
O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i, ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.
6
Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
7
Ar ôl i'r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.
8
Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job ac offrymu aberth i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”
9
Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naäma yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.
10
Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi ei golli — yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen.
11
Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro am yr holl drasiedïau oedd yr ARGLWYDD wedi eu dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.
12
Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod.
13
Hefyd cafodd saith mab a thair merch.
14
Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd.
15
Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr.
16
Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion.
17
Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42