bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 13
Job 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
1
Ydw, dw i wedi gweld hyn i gyd; dw i wedi ei glywed a'i ddeall.
2
Dw i'n gwybod cystal â chi; dw i ddim gwaeth na chi!
3
Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth; dw i am ddadlau fy achos gyda Duw.
4
Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir! Cwacs! Dyna beth ydych chi.
5
O na fyddech chi'n cau eich cegau! Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud.
6
Gwrandwch ar beth sydd gen i i'w ddweud; rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos.
7
Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw? Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e?
8
Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth? Neu oes angen i chi ei amddiffyn e?
9
Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e'n eich archwilio chi? Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi'n twyllo pobl?
10
Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chi am ddangos ffafr annheg ar y slei.
11
Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi, a bydd ei ofn yn cydio ynoch.
12
Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi; atebion disylwedd, yn frau fel clai.
13
Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad. Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,
14
dw i ddim am ollwng gafael! Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!
15
Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith! Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.
16
Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi — fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.
17
Gwrandwch yn ofalus arna i; clywch beth sydd gen i i'w ddweud.
18
Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad, a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.
19
Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbyn byddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.
20
Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw, fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:
21
Tynn dy law yn ôl, a stopia godi dychryn arna i.
22
Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb; neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.
23
Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu? Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.
24
Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i? Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn?
25
Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt? Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu?
26
Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi, a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid.
27
Rwyt ti wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud — rwyt ti'n marcio pob cam dw i'n ei gymryd.
28
Dw i'n darfod fel rhywbeth yn pydru, neu ddilledyn wedi ei ddifetha gan wyfyn.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42