bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 24
Job 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 25 →
1
Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn? Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?
2
Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau, ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.
3
Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad, ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled.
4
Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd, ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
5
Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch, mae'r tlodion yn mynd allan i weithio, ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith — bwyd iddyn nhw a'u plant.
6
Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill, a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
7
Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad, heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
8
Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm, ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
9
Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron, a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
10
Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad, ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
11
Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini, ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
12
Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas; a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help; ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
13
Mae rhai pobl yn gwrthod y golau; dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrdd nac yn aros ar ei lwybrau.
14
Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrio i ladd y tlawd a'r anghenus; mae e fel y lleidr yn y nos.
15
Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu; mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb, gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
16
Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos, ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd — dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
17
Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch; dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
18
Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr. Boed i'w dir e gael ei felltithio; boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!
19
Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu, mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.
20
Mae'r groth yn ei anghofio, a'r cynrhon yn gwledda arno; a fydd neb yn ei gofio eto; bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.
21
Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant, ac yn cam-drin y weddw.
22
Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus, pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
23
Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff, ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.
24
Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu; maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt, ac yn gwywo fel pen y dywysen.
25
Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r peth a dangos fy mod i'n siarad nonsens?”
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42