bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 37
Job 37
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 38 →
1
Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynu ac yn methu curiad.
2
Gwrandwch ar ei lais yn rhuo, ac ar ei eiriau'n atseinio!
3
Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr — ac yn mynd i ben draw'r byd.
4
Yna wedyn, mae'n rhuo eto, a'i lais cryf yn taranu; mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.
5
Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol! Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.
6
Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’ neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’
7
Mae'n stopio pawb rhag gweithio, mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.
8
Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi, ac i guddio yn eu gwâl.
9
Mae'r corwynt yn codi o'r de, ac oerni o wyntoedd y gogledd.
10
Anadl Duw sy'n dod â rhew, ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
11
Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaeth ac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
12
Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli, ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyn dros wyneb y ddaear i gyd.
13
Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir, neu i ddangos ei gariad ffyddlon.
14
Gwranda ar hyn, Job; Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
15
Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl, ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?
16
Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr? — gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith.
17
Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.
18
Alli di helpu Duw i ledu'r awyr, sy'n galed fel drych metel?
19
Dywed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho! Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.
20
Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad! Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?
21
Does neb yn gallu edrych ar yr haul pan mae'n disgleirio yn yr awyr, ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd.
22
Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd, mae ysblander Duw yn syfrdanol!
23
Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni! Mae ei nerth mor aruthrol fawr! Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn, a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
24
Dyna pam mae pobl yn ei ofni. Dydy e'n cymryd dim sylw o'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.”
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42