bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 10
Job 10
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 11 →
1
Mae'n gas gen i orfod byw! Ydw, dw i'n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
2
Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos! Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
3
Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl? Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo, a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4
Wyt ti'n edrych ar bethau trwy lygaid dynol? Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5
Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol? Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6
Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau i a cheisio dod o hyd i'm pechod?
7
Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog, ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8
Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu, ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9
Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai. Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10
Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth, a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11
Gwisgaist fi â chnawd a chroen, a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
12
Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i — dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
13
Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn. Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14
Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu, ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15
Os ydw i'n euog — mae ar ben arna i! Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen; dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16
Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew, i ddangos dy hun yn rhyfeddol — a hynny ar fy nhraul i!
17
Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn, ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi; dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
18
Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth? Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? —
19
Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli. Neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!
20
Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia! Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
21
Cyn i mi fynd — heb fyth ddod yn ôl — i wlad y twyllwch dudew,
22
i dir y gwyll a'r fagddu, lle does ond cysgodion ac anhrefn, a lle mae'r golau ei hun fel tywyllwch.”
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42