bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 38
Job 38
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 39 →
1
Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
2
“Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn siarad heb ddeall dim?
3
Torcha dy lewys fel dyn! Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb.
4
Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear? Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!
5
Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? — ti'n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?
6
Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen?
7
Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?
8
Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o'r groth?
9
Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a'i lapio mewn niwl trwchus.
10
Fi osododd derfyn iddo, a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio.
11
Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
12
Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod, a dangos i'r wawr ble i dorri,
13
a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear, ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
14
Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl, a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
15
Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg, ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
16
Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr, neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
17
Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti? Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?
18
Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear? Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd — dywed wrtho i!
19
Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw? O ble mae'r tywyllwch yn dod?
20
Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau, a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?
21
Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny, ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
22
Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira, neu wedi gweld y storfeydd o genllysg
23
sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd, pan mae brwydrau a rhyfeloedd?
24
Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru? O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?
25
Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw, a llwybrau i'r mellt a'r taranau,
26
iddi lawio ar dir lle does neb yn byw, ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?
27
Mae'r tir anial sych yn cael ei socian, ac mae glaswellt yn tyfu drosto.
28
Oes tad gan y glaw? Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?
29
O groth pwy y daeth y rhew? Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,
30
pan mae'r dŵr yn troi'n galed, ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?
31
Alli di blethu Pleiades neu ddatod belt Orion?
32
Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor, neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?
33
Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos, a sut mae'n effeithio ar y ddaear?
34
Alli di roi gorchymyn i'r cymylau i arllwys dŵr ar dy ben fel llif?
35
Alli di alw ar y mellt i fflachio, a'u cael nhw i ateb ‘Dyma ni’?
36
Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galon a deall i'r meddwl?
37
Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau? Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr
38
a gwneud i'r pridd lifo fel llaid, ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd?
39
Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes, a rhoi bwyd i'r llewod ifanc
40
sy'n gorwedd yn eu gwâl, neu'n llechu dan y llwyni am helfa?
41
Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfran pan mae ei chywion yn galw ar Dduw a hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim?
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42