bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 27
Job 27
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 28 →
1
Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud:
2
“Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg! Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
3
Tra mae bywyd yn dal ynof i, ac anadl Duw yn fy ffroenau,
4
wna i byth ddweud gair o gelwydd, na siarad yn dwyllodrus.
5
Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn! Bydda i'n onest hyd fy medd —
6
Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn; mae fy nghydwybod i'n glir!
7
Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg; yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
8
Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw, a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
9
Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi pan fydd mewn trafferthion?
10
Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth? Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid?
11
Dysgaf i i chi am nerth Duw, heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth.
12
Dych chi wedi gweld y peth eich hunain, felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
13
Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw, a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
14
Er iddo gael llawer o blant — cânt eu taro â'r cleddyf; fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
15
Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla, a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
16
Er casglu pentwr o arian fel pridd, a thomen o ddillad fel baw —
17
gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo, a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian.
18
Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn, neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu.
19
Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf; pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.
20
Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif, a'r storm yn ei gipio yn y nos.
21
Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd, a'i ysgubo i ffwrdd o'i le;
22
mae'n ei daro'n ddidrugaredd wrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael;
23
mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd, a chwibanu wrth ei yrru o'i le.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42