bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 11
Job 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 12 →
1
A dyma Soffar o Naäma yn ymateb:
2
“Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma! Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?
3
Wyt ti'n meddwl fod dy barablu di yn mynd i dewi dynion? Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?
4
Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn, a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
5
O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth, yn dy ateb di drosto'i hun,
6
ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn! Mae dwy ochr i bob stori! Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
7
Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw? Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?
8
Mae'n uwch na'r nefoedd — beth alli di ei wneud? Mae'n ddyfnach nag Annwn — beth wyt ti'n ei wybod?
9
Mae'n fwy na'r ddaear ac yn lletach na'r môr.
10
Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun, a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?
11
Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo; pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.
12
Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoeth ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!
13
Os gwnei di droi at Dduw, ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi —
14
troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi ei wneud, a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder —
15
yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd, ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
16
Byddi'n anghofio dy holl drybini — bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.
17
Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd, a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!
18
Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith; yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.
19
Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn; a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.
20
Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn. Does dim dianc iddyn nhw! Eu hunig obaith fydd cael marw.”
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42