bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 20
Job 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 21 →
1
Yna dyma Soffar o Naäma yn ymateb:
2
“Dw i ddim yn hapus o gwbl! Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.
3
Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau, ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:
4
Wyt ti ddim yn sylweddoli? — ers cyn cof, pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf —
5
dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir. Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.
6
Er i'w falchder dyfu'n dal, nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,
7
bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth! Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble aeth e?’
8
Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi ei hanghofio; fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.
9
Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto; fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen.
10
Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion; bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.
11
Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni, bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.
12
Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo, a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,
13
i gadw'r blas yn ei geg, a cheisio ei rwystro rhag darfod;
14
bydd yn suro yn ei stumog, ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.
15
Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd; bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.
16
Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber; ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.
17
Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd, yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran.
18
Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd; fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.
19
Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef, ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.
20
Ond dydy e byth yn cael ei fodloni, a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.
21
Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio, felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.
22
Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod, a phob math o helyntion yn dod ar ei draws.
23
Tra mae'n stwffio'i fol bydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn, ac yn tywallt ei saethau i lawr arno.
24
Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearn bydd saeth bres yn ei drywanu.
25
Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn, a blaen y saeth o'i iau, mae dychryn yn dod drosto.
26
Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau, a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw, ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.
27
Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg; bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo.
28
Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd; gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw.
29
Dyma dynged pobl ddrwg; dyma'r etifeddiaeth fydd Duw yn ei rhoi iddyn nhw.”
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42