bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 41
Job 41
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 42 →
1
Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota? Alli di rwymo ei dafod â rhaff?
2
Alli di roi cylch yn ei drwyn, neu wthio bachyn drwy ei ên?
3
Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd? Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti?
4
Fydd e'n ceisio dod i gytundeb, ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?
5
Alli di chwarae gydag e fel aderyn, neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?
6
Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano? Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
7
Alli di drywanu ei groen gyda phicellau, neu roi bachau pysgota yn ei geg?
8
Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr — fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!
9
Pam? Am nad oes gobaith ei ddal; mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.
10
Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn, felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i?
11
Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo? Fi sydd biau popeth dan y nef!
12
Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau, ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.
13
Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno, neu drywanu ei arfwisg blethog?
14
Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor? Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.
15
Mae ei gefn fel rhesi o darianau, wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl.
16
Mae un yn cyffwrdd y llall; maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd.
17
Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd, a does dim modd eu gwahanu nhw.
18
Mae'n fflachio mellt wrth disian. Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr.
19
Mae fflamau yn llifo o'i geg, a gwreichion yn tasgu ohoni.
20
Mae mwg yn dod allan o'i ffroenau fel crochan berw yn stemio.
21
Mae ei anadl yn cynnau marwor; ac mae fflamau'n dod allan o'i geg.
22
Mae ei wddf mor gryf, a nerth yn llamu allan o'i flaen.
23
Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd; maen nhw'n dynn amdano, a does dim modd eu symud.
24
Mae ei galon yn galed fel y graig, yn solet fel maen melin.
25
Pan mae'n codi mae'r rhai cryfaf yn dychryn; wrth iddo gynhyrfu maen nhw'n camu'n ôl.
26
Dydy ei daro gyda'r cleddyf yn cael dim effaith, na gwaywffon, na saeth, na phicell.
27
Mae'n trin haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru.
28
Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi, ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg.
29
Mae pastwn fel gwelltyn yn ei daro, ac mae'n chwerthin ar y cleddyf sy'n clecian.
30
Oddi tano mae fel darnau o botyn wedi torri, ac mae'n gadael ei ôl yn y llaid fel llusg ddyrnu.
31
Mae'n gwneud i'r dŵr dwfn ferwi fel crochan, ac i'r môr gorddi fel eli'n cael ei gymysgu.
32
Mae'n gadael llwybr gloyw ar ei ôl, ac mae'r dŵr dwfn yn edrych fel gwallt gwyn.
33
Does dim byd tebyg iddo'n fyw ar y ddaear; creadur sy'n ofni dim byd.
34
Mae'n edrych i lawr ar bob anifail cryf; mae'n frenin ar bopeth balch.”
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42