bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 16
Job 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 17 →
1
Dyma Job yn ateb:
2
“Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen; Dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!
3
Oes dim diwedd i'r malu awyr yma? Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?
4
Gallwn innau siarad â chi yr un fath petaech chi yn fy lle i. Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd, ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.
5
Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud; eich cysuro chi, a lleddfu'r boen.
6
Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun; ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r boen ddim llai.
7
Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy llwyr ymlâdd! Mae e wedi dinistrio fy nheulu.
8
Dw i'n crebachu yn ei law — dw i'n ddim ond croen ac esgyrn ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i.
9
Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau; ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i. Mae'n rhythu fel gelyn,
10
ac mae pobl yn chwerthin ac yn gwneud sbort ar fy mhen. Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi, ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn.
11
Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol, ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg.
12
Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl; gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân. Mae wedi fy newis fel targed,
13
ac mae ei saethwyr o'm cwmpas. Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd, ac mae fy ngwaed wedi ei dywallt ar lawr.
14
Dw i fel wal mae'n torri trwyddi dro ar ôl tro, ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.
15
Mae sachliain yn sownd i'm croen; a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.
16
Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch, ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.
17
Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb, ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.
18
Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed! Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!
19
Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd; mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!
20
Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu, tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.
21
O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol, fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.
22
Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fynd cyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi-nôl.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42