bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 3
Job 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 4 →
1
Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni.
2
Dyma ddwedodd e:
3
“O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! — y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi ei eni!’
4
O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno!
5
O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
6
O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno, fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn, ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!
7
O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth, heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
8
O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw — y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
9
O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno, a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau, a heb weld pelydrau'r wawr —
10
am ei bod heb gloi drysau croth fy mam, a'm rhwystro rhag gweld trybini.
11
Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw, neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
12
Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i, a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
13
Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel, yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
14
gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr, y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
15
gydag arweinwyr oedd â digon o aur, ac wedi llenwi eu tai ag arian.
16
Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw, neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
17
Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio, a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
18
Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr, heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
19
Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd, a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
20
Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef, a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
21
Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu — yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
22
Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawen pan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
23
Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas, a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?
24
Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio; dw i'n griddfan ac yn beichio crïo.
25
Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd; yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.
26
Does gen i ddim llonydd, dim heddwch, dim gorffwys — dim ond trafferthion.”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42