bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 28
Job 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 29 →
1
Mae cloddfa i arian, a lle i aur gael ei buro.
2
Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear, a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.
3
Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch, ac yn chwilio ym mhob cilfach am y mwynau sy'n y tywyllwch dudew.
4
Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb, mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded, ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.
5
Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu, ond islaw mae tân yn ei thoddi.
6
Mae saffir i'w gael yn y cerrig, ac aur yn ei llwch hefyd.
7
All aderyn rheibus ddim mynd ato; all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.
8
Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno; does dim llew wedi pasio heibio.
9
Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed, ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.
10
Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau, ac yn edrych am bethau gwerthfawr.
11
Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddu a dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.
12
Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb? Ble mae deall i'w gael?
13
Does neb yn gwybod ble mae; dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.
14
Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’ a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
15
Does dim modd ei brynu gyda bar o aur, na thalu amdano drwy bwyso arian.
16
Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir, nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
17
Dydy aur na grisial ddim cystal, ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
18
Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw; mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
19
Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu, a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.
20
O ble mae doethineb yn dod? Ym mhle mae deall i'w gael?
21
Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw, hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
22
Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud, ‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
23
Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd; Mae e'n gwybod o ble mae'n dod.
24
Mae e'n gweld i bedwar ban byd; mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.
25
Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt, a mesur maint y dyfroedd;
26
pan osododd reolau i'r glaw a llwybr i'r mellt a'r taranau,
27
gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth; ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.
28
A dwedodd wrth y ddynoliaeth: ‘Parchu'r ARGLWYDD — dyna sy'n ddoeth; peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42