bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 7
Job 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 8 →
1
Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed? Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog —
2
fel caethwas yn dyheu am gysgod, neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
3
Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas, a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
4
Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl, ‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’ Mae'r nos yn llusgo'n araf, a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
5
Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd; mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.
6
Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd, ac yn dod i ben mewn anobaith.
7
O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd! Wna i ddim profi pleser byth eto.
8
Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy; bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9
Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu, dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10
fydd e byth yn mynd adre eto; a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11
Felly, dw i ddim am gadw'n dawel! dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl; dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
12
Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd, i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13
Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur, a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
14
ti'n fy nychryn â breuddwydion, ac yn codi braw â hunllefau.
15
Byddai'n well gen i gael fy stranglo; mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
16
Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy; Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
17
Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano, a rhoi cymaint o sylw iddo?
18
Ti'n ei archwilio bob bore, ac yn ei brofi bob munud.
19
Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd? Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
20
Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi ei wneud i ti, ti Wyliwr pobl? Pam dewis fi yn darged? Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti?
21
Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu, a chael gwared â'm pechod? Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim; byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42