bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Job 14
Job 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 15 →
1
Byr ydy bywyd dyn, wedi ei eni o wraig, ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
2
Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo; mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
3
Ai ar un felly wyt ti'n syllu? Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
4
Pwy all wneud yr aflan yn lân? Does neb!
5
Mae dyddiau rhywun wedi eu rhifo; ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n byw ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.
6
Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo, fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.
7
Mae gobaith i goeden dyfu eto ar ôl cael ei thorri i lawr. Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.
8
Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd, a'i boncyff wedi dechrau pydru,
9
mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto, a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu.
10
Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder; mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.
11
Fel dŵr yn diflannu o lyn, neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.
12
Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi; Fydd dim deffro na chodi o'u cwsg tra bydd yr awyr yn dal i fod.
13
O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd, a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio; yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.
14
Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto? Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyl i rywun ddod i'm rhyddhau.
15
Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod; byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.
16
Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam, heb wylio am fy mhechod o hyd.
17
Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi ei selio, a'm pechod wedi ei guddio dan orchudd.
18
Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu, a chreigiau yn syrthio o'u lle;
19
neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn, a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear; dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun.
20
Ti'n ei drechu'n llwyr — mae ar ben arno! Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.
21
Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd; nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.
22
Dydy e'n teimlo dim ond ei boen ei hun ac yn poeni dim am neb arall.”
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42