bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 1
Acts 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
1
Y traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur ac eu dysgu,
2
hyd y dydd pan, wedi gorchymyn, trwy’r Yspryd Glân, i’r apostolion a etholasai, y cymmerwyd Ef i fynu;
3
i’r rhai hefyd y dangosodd Ei hun yn fyw, wedi Iddo ddioddef, trwy lawer o brofion, yn cael am ddeugain niwrnod Ei weled ganddynt, ac yn dywedyd y pethau am deyrnas Dduw;
4
ac wedi ymgynnull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt beidio ag ymadael o Ierwshalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn (ebr Efe) a glywsoch Genyf;
5
canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân cyn nemmawr o ddyddiau.
6
Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
7
A dywedodd wrthynt, Nid i chwi y mae gwybod yr amseroedd a’r prydiau, y rhai y mae’r Tad wedi eu gosod yn Ei feddiant Ei hun.
8
Eithr derbyniwch allu, wedi dyfod o’r Yspryd Glân arnoch, a byddwch Fy nhystion I yn Ierwshalem ac yn holl Iwdea a Shamaria ac hyd eithaf y ddaear.
9
Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a hwy yn edrych, cymmerwyd Ef i fynu, a chwmmwl a’i derbyniodd Ef allan o’u golwg.
10
A phan yr oeddynt yn craffu ar y nef, wrth fyned o Hono, ac wele, dau ŵr a safasant gerllaw iddynt, mewn gwisgoedd gwynion,
11
y rhai hefyd a ddywedasant, Dynion o Galilea, paham y sefwch yn edrych i’r nef? Yr Iesu hwn, yr Hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly, yn y modd y gwelsoch Ef yn myned i’r nef.
12
Yna y dychwelasant i Ierwshalem o’r mynydd a elwir mynydd yr Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierwshalem, ag iddo daith Sabbath.
13
A phan ddaethent i mewn i’r oruch-ystafell yr aethant i fynu, lle yr arhosai Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholemëus a Matthew, Iago mab Alphëus, a Shimon Zelotes, ac Iwdas brawd Iago.
14
Y rhai hyn oll oeddynt yn parhau yn gyttun mewn gweddi ynghyda’ r gwragedd a Mair mam yr Iesu, ac ynghyda’i frodyr Ef.
15
Ac yn y dyddiau hyny, wedi cyfodi o Petr ynghanol y brodyr, dywedodd (ac yr oedd lliaws o enwau ynghyd, o ddeutu ugain a chant),
16
Gwŷr frodyr, rhaid oedd i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Iwdas, yr hwn a aeth yn dywysydd i’r rhai a ddaliasant yr Iesu.
17
Canys cyfrifwyd ef yn ein plith, a chafodd ei ran o’r weinidogaeth hon.
18
(Hwn yn wir, gan hyny, a gafodd faes â gwobr ei anghyfiawnder, a chan syrthio yn bendramwnwgl y torrodd yn ei ganol,
19
a thywalltwyd allan ei holl ymysgaroedd: a hyspys fu hyn i bawb yn preswylio yn Ierwshalem, fel y galwyd y maes hwnw, yn eu hiaith, Aceldama, hyny yw, Maes gwaed).
20
Canys ysgrifenwyd yn Llyfr y Psalmau, “Bydded ei gorlan yn anghyfannedd, Ac na fydded a drigo ynddi,” ac “A’i oruchwyliaeth cymmered arall.”
21
Am hyny, y mae rhaid i un o’r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith,
22
gan ddechreu o fedydd Ioan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddiwrthym, i un o’r rhai hyn fyned yn dyst o’i adgyfodiad, ynghyda ni.
23
A gosodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a elwid Barshabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthïas;
24
a chan weddïo, dywedasant, Tydi, Arglwydd, yr Hwn a wyddost galonnau pawb,
25
dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, i dderbyn y lle yn y weinidogaeth hon a’r apostoliaeth, o’r hon y syrthiodd Iwdas ymaith i fyned i’w le ei hun.
26
A rhoisant goel-brennau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthïas, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28