bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 12
Acts 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Ac ynghylch y pryd hwnw yr estynodd Herod frenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o’r eglwys;
2
a lladdodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf.
3
A chan weled mai da oedd gan yr Iwddewon, ychwanegodd ddala Petr hefyd; a dyddiau y bara croyw ydoedd hi;
4
yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yngharchar, gan ei draddodi at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw, gan ewyllysio, ar ol y Pasg, ei ddwyn ef at y bobl.
5
Petr, gan hyny, a gedwid yn y carchar, ond gweddi oedd yn cael ei gwneud yn ddyfal gan yr eglwys at Dduw am dano ef.
6
A phan yr oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef ymlaen, y nos honno yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a cheidwaid o flaen y drws a gadwent y carchar.
7
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan darawo ystlys Petr, deffrodd efe ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys; a syrthiodd ei gadwyni oddi am ei ddwylaw.
8
A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a dod dy sandalau dan dy draed. A gwnaeth efe felly. A dywedodd wrtho, Bwrw dy gochl am danat, a chanlyn fi.
9
Ac wedi myned allan, canlynai, ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wnaed gan yr angel, ond tybiai mai gweledigaeth a welai efe.
10
Ac wedi myned heibio’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, daethant at y porth haiarn y sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn o’i waith ei hun a ymagorodd iddynt; ac wedi dyfod allan, aethant ymlaen hyd un heol, ac yn uniawn yr ymadawodd yr angel ag ef.
11
A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir y danfonodd yr Arglwydd allan ei angel, ac y’m cymmerodd o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iwddewon.
12
Ac wedi ystyried, daeth i dŷ Mair, mam Ioan yr hwn a gyfenwid Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ynghyd ac yn gweddïo.
13
Ac efe wedi curo drws y porth, daeth morwynig i atteb, a’i henw Rhode;
14
ac wedi adnabod llais Petr, o’i llawenydd nid agorodd y porth, ond wedi rhedeg i mewn mynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
15
A hwy a ddywedasant wrthi, Allan o’th bwyll yr wyt; a hithau a daerai mai felly yr oedd; a hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.
16
A Petr a barhaodd yn curo; ac wedi agoryd o honynt, gwelsant ef a synnasant.
17
Ac wedi amneidio arnynt â’i law i dewi, mynegodd iddynt pa wedd y bu i’r Arglwydd ei ddwyn ef allan o’r carchar; a dywedodd, Mynegwch i Iago, a’r brodyr, y pethau hyn. Ac wedi myned allan, yr aeth i le arall.
18
A phan yr oedd hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth ysgatfydd a ddaethai o Petr.
19
A Herod wedi chwilio am dano ac heb ei gael ef, ac wedi holi’r ceidwaid, a orchymynodd eu dwyn ymaith; ac wedi dyfod i wared o Iwdea i Cesarea, arhosodd yno.
20
Ac yr oedd efe yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Turus a Tsidon; ac ag un fryd y daethant atto; ac wedi ynnill Blastus, ystafellydd y brenhin, deisyfiasant heddwch, o herwydd y cynhelid eu gwlad o wlad y brenhin.
21
Ac ar ddydd nodedig, Herod wedi ymwisgo â gwisg frenhinol,
22
ac yn eistedd ar y frawd-faingc, a areithiodd wrthynt; a’r bobl a floeddiodd, Eiddo Duw yw ’r llais, ac nid eiddo dyn.
23
Ac allan o law y tarawodd angel yr Arglwydd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, trengodd.
24
A gair Duw a gynnyddodd ac a liosogwyd.
25
A Barnabas a Shawl a ddychwelasant o Ierwshalem, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, gan gymmeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28