bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 2
Acts 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt oll ynghyd yn yr un lle.
2
A daeth yn ddisymmwth o’r nef swn fel o wynt nerthol yn rhuthro, a llanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn aros:
3
ac ymddangosodd iddynt dafodau yn ymhollti, fel o dân, ac eisteddodd efe ar bob un o honynt:
4
a llanwyd hwy oll â’r Yspryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill fel yr oedd yr Yspryd Glân yn rhoddi ymadrodd iddynt.
5
Ac yr oedd yn Ierwshalem Iwddewon a drigent yno, gwŷr crefyddus, o bob cenedl dan y nef.
6
Ac wedi digwydd o’r llais hwn, daeth y lliaws ynghyd a dyryswyd hwynt, canys clywent, bob un, hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun.
7
A synnasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn y sy’n llefaru, yn Galileaid?
8
A pha fodd yr ydym ni yn clywed, bob un yn ein hiaith ein hun yn yr hon y’n ganed ni?
9
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a’r rhai yn trigo yn Mesopotamia, ac Iwdea, a Cappadocia, Pontus, ac Asia,
10
Phrugia a Phamphulia, yr Aipht, a pharthau Libua gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iwddewon a phroselytiaid,
11
Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ni weithredoedd mawrion Duw.
12
A synnasant oll, a dyryswyd hwynt, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Pa beth a fyn hyn fod?
13
Ond eraill, gan watwar, a ddywedasant, A gwin newydd y gor-lanwyd hwynt.
14
A Petr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gododd ei lais, ac a ddywedodd wrthynt, Gwyr o Iwddewon, a’r oll sy’n trigo yn Ierwshalem, bydded hyn yn hysbys i chwi,
15
a rhoddwch glust i’m hymadroddion: canys nid yw y rhai hyn, fel yr ydych chwi yn tybied, yn feddwon, canys y drydedd awr o’r dydd yw hi:
16
eithr hyn yw’r hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd Ioel,
17
“A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Iehofah, y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd, A phrophwyda eich meibion ac eich merched A’ch gwŷr ieuaingc, gweledigaethau a welant, Ac eich henafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant.
18
Ac ar Fy ngweision a’m llawforwynion yn y dyddiau hyny Y tywalltaf o’m Hyspryd, a phrophwydant.
19
A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod, Gwaed, a thân, a tharth mwg;
20
Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, Cyn dyfod o ddydd Iehofah, y dydd mawr a hynod.
21
A bydd, pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.”
22
Gwŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Natsaread, Gŵr a gymmeradwywyd gan Dduw yn eich plith trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw Trwyddo Ef yn eich canol, fel y gwyddoch eich hunain;
23
Hwn, wedi Ei roddi i fynu trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, trwy ddwylaw dynion drygionus,
24
gan Ei groes-hoelio, a laddasoch: Hwn, Duw a’i cyfododd, gan ddattod gofidiau angau, canys nid oedd bosibl Ei attal ganddo, canys Dafydd a ddywaid am Dano,
25
“Gwelais Iehofah ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger:
26
Am hyny y llawenychodd fy nghalon, a gorfoleddodd fy nhafod, Ac fy nghnawd hefyd a drig mewn gobaith,
27
Gan na adewi fy enaid yn Hades Ac na chaniattei i’th Sanct weled llygredigaeth.
28
Hyspysaist i mi ffyrdd y bywyd; Llenwi fi o lawenydd ger Dy fron.”
29
Gwŷr frodyr, gan allu o honof ddweud yn hyderus wrthych am y patriarch Dafydd y bu efe farw a’i gladdu, ac ei feddrod sydd gyda ni hyd y dydd hwn;
30
am hyny, gan fod yn brophwyd ac yn gwybod mai â llw y tyngasai Duw iddo i osod o ffrwyth ei lwynau ef ar ei orsedd,
31
gan rag-weled y llefarodd am adgyfodiad Crist, “Ni adawyd Ef yn Hades,”
32
ac “Ei gnawd Ef ni welodd lygredigaeth.” Yr Iesu Hwn a gyfododd Duw; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33
Gan hyny, wedi Ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn addewid yr Yspryd Glân gan y Tad, tywalltodd allan y peth hwn yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed:
34
canys nid Dafydd a esgynodd i’r nefoedd, ond dywaid ei hun, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,
35
Hyd oni osodwyf Dy elynion yn droed-faingc i’th draed.”
36
Gan hyny, sicr-wybydded holl dŷ Israel mai yn Arglwydd ac yn Grist y gwnaeth Duw Ef, yr Iesu Hwn, yr Hwn chwychwi a’i croes-hoeliasoch.
37
Wedi clywed hyn, pigwyd hwy yn eu calon, a dywedasant wrth Petr a’r apostolion eraill, Pa beth a wnawn, frodyr?
38
A Petr a ddywedodd, wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant eich pechodau: a derbyniwch ddawn yr Yspryd Glân;
39
canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i’r holl rai sydd ymhell, cynnifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni Atto.
40
Ac â geiriau eraill lawer y tystiolaethodd efe, ac y’u cynghorodd, gan ddywedyd, Achubwch eich hunain oddiwrth y genhedlaeth wyrog hon.
41
Rhai, gan hyny, wedi derbyn ei ymadrodd, a fedyddiwyd; ac ychwanegwyd attynt y dwthwn hwnw ynghylch tair mil o eneidiau:
42
ac yr oeddynt yn parhau yn nysgad yr apostolion, ac ynghymmundeb, ac yn nhorriad y bara a’r gweddïau.
43
Ac yr oedd ar bob enaid ofn; a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaed gan yr apostolion;
44
a’r holl rai a gredent oeddynt ynghyd; ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin;
45
ac eu meddiannau a’u heiddo a werthent, a rhannent hwynt i bawb, fel yr oedd neb ag eisiau arno.
46
A pheunydd yn parhau ag un meddwl, yn y deml, ac yn torri bara gartref, y cymmerent eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon,
47
gan foli Duw, ac yn cael ffafr gyda’r holl bobl. A’r Arglwydd a ychwanegodd attynt beunydd y rhai oedd yn cael eu hachub.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28