bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 22
Acts 22
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
Brodyr a thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presennol wrthych.
2
Ac wedi clywed mai yn iaith yr Hebreaid y llefarai wrthynt, mwy y gwnaethant osteg, ac ebr efe,
3
Myfi wyf Iwddew, wedi fy ngeni yn Tarsus o Cilicia, wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy athrawiaethu yn ol manylrwydd Cyfraith ein tadau, yn selog dros Dduw, fel y mae pawb o honoch chwi heddyw.
4
Ac y Grefydd hon a erlidiais i hyd angau, gan rwymo a thraddodi i garcharau ddynion a gwragedd hefyd,
5
fel y mae’r archoffeiriad yn tystio i mi a’r holl henaduriaeth hefyd, gan y rhai wedi derbyn o honof lythyrau at y brodyr, ar y ffordd i Damascus yr oeddwn, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Ierwshalem, fel y cospid hwynt.
6
A digwyddodd i mi ar fy ffordd, ac yn nesau at Damascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, o’r nef y disgleiriodd goleuni mawr o’m hamgylch;
7
a syrthiais ar y llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf,
8
Shawl, Shawl, paham yr wyt yn Fy erlid I? Ac myfi a attebais, Pwy wyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu y Natsaread, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
9
Ac y rhai oedd gyda mi, y goleuni a welsant, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf ni ddeallasant.
10
A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wedi cyfodi, dos i Damascus, ac yno wrthyt y lleferir am yr holl bethau yr appwyntiwyd i ti eu gwneuthur.
11
A phan na welwn gan ogoniant y goleuni hwnw, gan fy nhywys erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, y daethum i Damascus.
12
Ac un Ananias, gŵr defosiynol yn ol y Gyfraith a thystiolaeth iddo gan yr holl Iwddewon, oedd yn preswylio yno,
13
wedi dyfod attaf a sefyll gerllaw, a ddywedodd wrthyf, Shawl, frawd, derbyn dy olwg; ac myfi yr awr honno, a edrychais arno.
14
Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau a’th appwyntiodd i wybod Ei ewyllys, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o’i enau Ef;
15
canys byddi dyst Iddo, wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist.
16
Ac yn awr, paham yr oedi? Cyfod: bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar Ei enw Ef.
17
A digwyddodd i mi, ar ol dychwelyd i Ierwshalem, ac wrth weddïo o honof yn y deml,
18
yr oeddwn mewn llewyg, ac y gwelais Ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos allan, ar frys, o Ierwshalem, canys ni dderbyniant dy dystiolaeth di am Danaf.
19
Ac myfi a ddywedais, Arglwydd, hwy a wyddant mai myfi oeddwn yn carcharu ac yn curo ymhob sunagog y rhai a gredent Ynot;
20
a phan dywalltwyd gwaed Stephan, Dy ferthyr, minau hefyd oeddwn yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynied, ac yn cadw cochlau y rhai yn ei ladd ef.
21
A dywedodd wrthyf, Dos, canys Myfi, at y cenhedloedd, ymhell a’th ddanfonaf allan.
22
A gwrandawsant arno hyd y gair hwn, a chodasant eu llef gan ddywedyd, Ymaith oddiar y ddaear â’r fath ddyn, canys nid cymmwys iddo fyw.
23
Ac wrth waeddi o honynt a bwrw eu cochlau,
24
a thaflu llwch i’r awyr, gorchymynodd y milwriad ei ddwyn ef i’r castell, gan orchymyn ei holi ef gyda fflan-gellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly yn ei erbyn.
25
A phan rwymasant ef â’r carreiau, wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw y dywedodd Paul, Rhufeiniad, ac heb ei gondemnio, ai cyfreithlawn i chwi ei fflan-gellu?
26
Ac wedi clywed hyn, y canwriad, wedi myned at y milwriad, a fynegodd, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ar fedr ei wneuthur; canys y dyn hwn, Rhufeiniad yw?
27
Ac wedi dyfod atto, y milwriad a ddywedodd wrtho, Dywaid i mi, tydi, ai Rhufeiniad wyt? Ac efe a ddywedodd, Ië.
28
Ac attebodd y milwriad, Myfi â swm mawr a gefais y ddinas-fraint hon. A Paul a ddywedodd, Ac myfi a anwyd felly.
29
Yn uniawn, gan hyny, y safodd oddi wrtho y rhai ar fedr ei holi ef; a’r milwriad hefyd a ofnodd, pan wybu mai Rhufeiniad ydoedd, ac am iddo ei rwymo ef.
30
A thrannoeth, gan chwennychu gwybod y sicrwydd o ba beth y cyhuddid ef gan yr Iwddewon, gollyngodd ef yn rhydd; a gorchymynodd ddyfod ynghyd o’r archoffeiriad a’r holl gynghor, ac wedi dwyn Paul i wared, gosododd ef ger eu bron.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28