bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 25
Acts 25
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Ffestus, gan hyny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ol tri diwrnod a aeth i fynu i Ierwshalem o Cesarea.
2
Ac wrtho yr hyspysodd yr archoffeiriaid a phennaethiaid yr Iwddewon yn erbyn Paul:
3
a deisyfiasant arno, gan ofyn ffafr yn ei erbyn ef, y danfonai am dano i Ierwshalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
4
Ffestus, gan hyny, a attebodd, Y cedwid Paul yn Cesarea, ac ei fod ef ei hun ar fedr myned allan yn fuan.
5
Gan hyny, ebr efe, y rhai galluog yn eich plith, wedi myned i wared gyda mi, os oes yn y dyn ryw beth allan o’i le, cyhuddant ef.
6
Ac wedi aros yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, wedi myned i wared i Cesarea, trannoeth, gan eistedd ar y frawd-faingc, y gorchymynodd i Paul gael ei ddwyn ger ei fron;
7
ac wedi dyfod o hono, o’i amgylch y safodd yr Iwddewon a ddaethent i wared o Ierwshalem; a llawer o gyhuddiadau, a thrymion hefyd, a ddygasant yn ei erbyn,
8
y rhai ni allent eu profi, a Paul yn amddiffyn ei hun, gan ddywedyd, Nac yn erbyn Cyfraith yr Iwddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar ni phechais ddim.
9
A Ffestus yn ewyllysio ynnill ffafr gyda’r Iwddewon, gan atteb i Paul, a ddywedodd, A ewyllysi di, wedi myned i fynu i Ierwshalem, gael dy farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron?
10
A dywedodd Paul, Ger bron brawd-faingc Cesar yn fy sefyll yr wyf, lle y mae rhaid i mi gael fy marnu. I’r Iwddewon ni wnaethum ddim anghyfiawnder, fel yr wyt ti hefyd yn gwybod yn dda.
11
Os yn wir, gan hyny, gwneud anghyfiawnder yr wyf, a rhyw beth yn haeddu angau a wnaethum, ni ofynaf beidio â marw; ond os nad oes dim o’r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo o honynt, nid oes neb a all fy rhoddi iddynt. At Cesar yr appeliaf.
12
Yna Ffestus, wedi ymddiddan â’r cynghor, a attebodd, At Cesar yr apeliaist, at Cesar yr ei.
13
A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa y brenhin a Bernice a ddaethant i wared i Cesarea, gan gyfarch Ffestus.
14
A phan llawer o ddyddiau a dreuliasant yno, Ffestus a roddodd o flaen y brenhin fatterion Paul, gan ddywedyd, Rhyw ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn rhwym;
15
ynghylch yr hwn yr hyspysodd yr archoffeiriaid ac henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn condemniad yn ei erbyn;
16
wrth y rhai yr attebais nad yw arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i fynu cyn i’r cyhuddol gael y cyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfleusdra i amddiffyn ei hun ynghylch y cyhuddiad.
17
Wedi dyfod o honynt ynghyd, gan hyny, yma, dim oed ni wnaethum, ond trannoeth gan eistedd ar y frawd-faingc, gorchymynais ddwyn y gŵr ger bron;
18
am yr hwn y cyhuddwyr yn eu sefyll, ni ddygasant ddim achwyn o’r pethau drwg a dybiais i;
19
ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu a fu farw, yr Hwn y dywedai Paul Ei fod yn fyw.
20
Ac myfi, wedi fy nyrysu o ran holi ynghylch y pethau hyn, a ddywedais, A fynnai efe fyned i Ierwshalem ac ei farnu yno ynghylch y pethau hyn:
21
a Paul wedi appelio i’w gadw am benderfyniad Augustus, gorchymynais ei gadw nes y danfonwn ef i fynu at Cesar.
22
Ac Aggrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ewyllysiwn innau hefyd glywed y dyn. Y foru, ebr efe, y clywi ef.
23
Trannoeth, gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice, gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i’r gwrandaw-le ynghyda’r milwriaid a phendefigion y ddinas, ac wedi gorchymym o Ffestus, dygpwyd Paul ger bron.
24
A dywedodd Ffestus, Agrippa frenhin, a’r holl wŷr yn bresennol gyda ni, gwelwch y dyn hwn, ynghylch yr hwn holl liaws yr Iwddewon a ymbiliasant â mi yn Ierwshalem ac yma, gan waeddi na ddylai efe fyw yn hwy.
25
Ond myfi a ddeallais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau: ond efe ei hun wedi appelio at Augustus, bernais ei ddanfon ef;
26
am yr hwn nid oes genyf ddim sydd sicr i’w ysgrifenu at fy arglwydd. Gan hyny, dygais ef ymlaen ger eich bron, ac yn enwedig ger dy fron di, frenhin Agrippa, fel, holiad wedi ei wneuthur, y bo genyf ryw beth a ysgrifenaf;
27
canys allan o reswm yr edrych i mi, wrth ddanfon carcharor, beidio ag hyspysu hefyd yr achwynion yn ei erbyn.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28