bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 8
Acts 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
a Shawl oedd yn cydsynied i’w ddistryw ef. A chyfododd y dydd hwnw erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Ierwshalem, a’r oll o honynt a wasgarwyd trwy barthau Iwdea a Shamaria, namyn yr apostolion.
2
A Stephan a ddug dynion crefyddol i’w gladdu, a gwnaethant alar mawr am dano.
3
A Shawl a anrheithiai’r eglwys, yn eu tai, gan fyned i mewn, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, traddodai hwynt i garchar.
4
Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant gan efengylu’r Gair.
5
A Philip wedi myned i wared i ddinas Shamaria, a bregethai iddynt Grist.
6
A’r torfeydd a ddaliasant sylw ar y pethau a ddywedid gan Philip, yn unfryd, wrth eu clywed hwynt a gweled yr arwyddion a wnelai efe;
7
canys llawer o’r rhai ag ysprydion aflan ganddynt, y rhai, gan floeddio â llef uchel, a ddeuent allan,
8
a llawer yn gleifion o’r parlys, a chloffion, a iachawyd; a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9
Ond rhyw ddyn a’i enw Shimon oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn peri syndod i genedl Shamaria, gan ddywedyd ei fod efe ei hun yn rhywun mawr;
10
ac iddo y rhoddai pawb glust, o fychan hyd fawr, gan ddywedyd, Hwn yw gallu Duw, yr hwn a elwir Mawr.
11
A rhoddent glust iddo, am mai am amser maith y bu iddo â’i swynion beri syndod iddynt.
12
Ond pan gredasant i Philip yn efengylu ynghylch teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt yn wŷr ac yn wragedd:
13
a Shimon, yntau hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a barhaodd ynghyda Philip; a chan weled yr arwyddion a’r gwyrthiau mawrion a wneid, synnodd arno.
14
Ac wedi clywed o’r apostolion oedd yn Ierwshalem, y derbyniasai Shamaria Air Duw, danfonasant attynt Petr ac Ioan,
15
y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddïasant drostynt,
16
ar dderbyn o honynt yr Yspryd Glân, canys hyd yn hyn nid oedd Efe wedi syrthio ar neb o honynt, ac nid oeddynt ond wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.
17
Yna y dodasant eu dwylaw arnynt, a derbyniasant hwythau yr Yspryd Glân.
18
A chan weled o Shimon mai trwy osodiad dwylaw yr apostolion y rhoddwyd yr Yspryd Glân,
19
daeth ag arian attynt, gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylaw, y caffo yr Yspryd Glân.
20
A Petr a ddywedodd wrtho, Dy arian, ynghyda thydi, a fydded i ddistryw, gan mai rhodd Duw a feddyliaist gael trwy arian.
21
Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y peth hwn, canys dy galon nid yw uniawn ger bron Duw.
22
Edifarha, gan hyny, am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw,
23
os ysgatfydd y maddeuir i ti feddwl dy galon, canys ym mustl chwerw ac yn rhwym anghyfiawnder y gwelaf dy fod di.
24
A chan atteb, Shimon a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof at yr Arglwydd na bo i ddim ddyfod arnaf o’r pethau a ddywedasoch.
25
A hwy, gan hyny, wedi tystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Ierwshalem, ac i lawer o bentrefi y Shamariaid yr efengylasant.
26
Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod a dos tua’r dehau i’r ffordd sy’n myned i wared o Ierwshalem i Gaza, yr hon sydd anial.
27
Ac wedi cyfodi yr aeth; ac wele, gŵr o Ethiopia, swyddwr galluog i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Ierwshalem i addoli;
28
ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, a darllenai y prophwyd Eshaiah.
29
A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at, a glyn wrth, y cerbyd hwn.
30
Ac wedi rhedeg atto, Philip a glywodd ef yn darllen Eshaiah y prophwyd, a dywedodd, A wyt ti ysgatfydd yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
31
Ac efe a ddywedodd, Canys pa fodd y gallaf oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo? A dymunodd ar Philip ddyfod i fynu ac eistedd gydag ef;
32
a’r lle o’r Ysgrythyr yr hwn a ddarllenai oedd hwn, “Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef, Ac fel oen ger bron ei gneifiwr yn fud, Felly nid agorodd ei enau:
33
Yn ei ostyngiad ei farn a ddygpwyd ymaith, Ei genhedlaeth ef pwy a fynega, Canys dygir ymaith ei fywyd oddiar y ddaear?”
34
A chan atteb i Philip, y swyddwr a ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae’r prophwyd yn dywedyd hyn? Ai am dano ei hun, neu am ryw un arall?
35
A Philip, wedi agor ei enau a dechreu o’r ysgrythyr hon, a efengylodd iddo yr Iesu.
36
Ac fel yr aent ar hyd y ffordd, daethant at ryw ddwfr; ac ebr y swyddwr, Wele ddwfr, pa beth a luddias fy medyddio?
38
A gorchymynodd sefyll o’r cerbyd. Ac aethant i wared ill dau i’r dwfr, Philip ac yr eunuch; a bedyddiodd efe ef.
39
A phan ddaethant i fynu o’r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip, ac ni welodd y swyddwr ef mwyach; canys aeth ei ffordd dan lawenychu.
40
A Philip a gaed yn Azotus; a chan dramwy, efengylodd yn y dinasoedd oll nes dyfod o hono i Cesarea.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28