bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 4
Acts 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
A hwy yn llefaru wrth y bobl daeth arnynt yr offeiriaid, a chadben y deml,
2
a’r Tsadwceaid, gwedi eu poeni am ddysgu o honynt y bobl, a chyhoeddi, yn yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw.
3
A dodasant eu dwylaw arnynt, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth, erbyn trannoeth, canys yr oedd hi weithian yn hwyr.
4
Ond llawer o’r rhai a glywsant y Gair, a gredasant; a gwnaed rhifedi y gwŷr ynghylch pum mil.
5
A bu drannoeth y casglwyd ynghyd eu pennaethiaid ac yr henuriaid a’r ysgrifenyddion yn Ierwshalem,
6
ac Annas yr archoffeiriad, a Caiaphas ac Ioan ac Alecsander, a chynnifer ag oedd o’r genedl archoffeiriadol.
7
Ac wedi eu gosod hwy yn y canol, gofynasant. Trwy ba awdurdod neu ym mha enw y gwnaethoch chwi y peth hwn?
8
Yna Petr, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt,
9
Pennaethiaid y bobl, ac henuriaid, os ni a holir heddyw am y weithred dda i’r dyn claf, trwy bwy yr iachawyd ef, bydded hysbys i chwi oll,
10
ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Natsaread; yr Hwn, chwi a’i croes-hoeliasoch; yr Hwn, Duw a’i cyfododd o feirw, Trwyddo Ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.
11
Efe yw’r maen a ddiystyrwyd genych chwi yr adeiladwyr, wedi Ei wneud yn ben y gongl;
12
ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth, canys nid oes o gwbl enw arall tan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae rhaid i ni fod yn gadwedig.
13
Ac wedi gweled hyfder Petr ac Ioan, a chanfod mai dynion anllythrennog oeddynt ac heb addysg, rhyfeddasant, a chymmerasant wybodaeth o honynt mai gyda’r Iesu y buasent,
14
a chan weled y dyn yn sefyll gyda hwynt, sef yr hwn a iachesid, nid oedd ganddynt ddim i wrth-ddywedyd.
15
Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o’r Cynghor,
16
ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn i’r dynion hyn? canys yn wir bod arwydd hynod wedi ei wneuthur trwyddynt, i bawb sy’n trigo yn Ierwshalem y mae ’n amlwg,
17
ac nis gallwn ei wadu: eithr fel na thaner ym mhellach ym mhlith y bobl, bygythiwn hwynt na lefaront mwyach yn yr enw hwn i un dyn.
18
Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant iddynt beidio ag ynganu o gwbl na dysgu yn enw yr Iesu.
19
Ond Petr ac Ioan, gan atteb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch:
20
canys nis gallwn ni beidio â llefaru y pethau a welsom ac a glywsom.
21
Eithr hwy, wedi eu bygwth hwynt ym mhellach, a’u gollyngasant yn rhyddion, heb gael dim fel y cospent hwynt, o achos y bobl, canys pawb a ogoneddent Dduw am y peth a wnaethpwyd;
22
canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachad.
23
Ac wedi eu gollwng yn rhyddion, aethant at yr eiddynt, a mynegasant cynnifer o bethau y bu i’r archoffeiriaid a’r henuriaid eu dywedyd wrthynt.
24
A hwy, wedi clywed hyn, o un fryd a godasant eu llais at Dduw, a dywedasant, Arglwydd, Tydi, yr Hwn a wnaethost y nef a’r ddaear a’r môr ac oll y sydd ynddynt,
25
yr Hwn trwy enau ein tad Dafydd Dy was, trwy’r Yspryd Glân, a ddywedaist, “Paham y terfysgodd cenhedloedd, A phobloedd a fyfyriasant wegi;
26
Y safodd brenhinoedd y ddaear, A’r pennaethiaid a gasglwyd ynghyd, Yn erbyn Iehofah, ac yn erbyn Ei Grist?”
27
canys casglwyd mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn Dy Sanct Fab Iesu, yr Hwn a enneiniaist, Herod a Pontius Pilat,
28
gyda’ r cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur cynnifer o bethau ag y bu i’th law Di a’th gynghor eu rhag-ordeinio i ddigwydd.
29
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i’th weision lefaru,
30
gyda phob hyfder, Dy Air Di, gydag estyn allan o Honot Dy law er iachad, a thrwy i arwyddion a rhyfeddodau ddigwydd trwy enw Dy Sanct Fab Iesu.
31
Ac wedi gweddïo o honynt, siglwyd y fan lle yr oeddynt wedi eu casglu ynghyd, a llanwyd hwy oll o’r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.
32
Ac i liaws y rhai a gredasant yr oedd un galon ac enaid; ac nid oedd hyd yn oed un a ddywedai fod dim o’i dda yn eiddo ef ei hun, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.
33
Ac â gallu mawr y rhoddai yr apostolion eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a gras mawr oedd ar yr oll o honynt:
34
canys nid oedd chwaith neb mewn eisiau yn eu plith, canys cynnifer ag oeddynt berchenoedd tiroedd neu dai, gan eu gwerthu hwynt, deuent â gwerth y pethau a werthid,
35
a dodent ef wrth draed yr apostolion, a rhennid i bob un yn ol yr hyn oedd arno eisiau.
36
Ac Ioseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion, (yr hwn, o’i gyfieithu yw Mab Annogiad), yn Lefiad ac yn Cupriad o genedl,
37
a maes ganddo, ac wedi ei werthu ef daeth a’r arian ac a’i dododd wrth draed yr apostolion.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28