bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 21
Acts 21
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
A phan fu i ni hwylio ymaith, wedi ymrwygo oddi wrthynt, ag uniawn-gyrch y daethom i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.
2
Ac wedi cael llong yn myned trosodd i Phenice, wedi dringo iddi, hwyliasom ymaith.
3
Ac wedi cael golwg ar Cuprus a’i gadael ar y llaw aswy, hwyliasom i Suria, a thiriasom yn Turus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho ei llwyth.
4
Ac wedi cael y disgyblion, arhosasom yno saith niwrnod; a hwy a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, beidio a myned i fynu i Ierwshalem.
5
A phan fu i ni gyflawni’r dyddiau, wedi myned allan aethom ein ffordd, yn cael ein hebrwng gan bawb, ynghyda’ r gwragedd a’ r plant, hyd tu allan i’r ddinas; ac wedi dodi ein gliniau ar y traeth,
6
ar ol gweddïo, canasom yn iach i’n gilydd, a dringasom i’r llong, a hwythau a ddychwelasant i’w cartref.
7
A nyni, wedi gorphen hwylio o Turus, a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arhosasom un diwrnod gyda hwynt;
8
a thrannoeth, wedi dyfod allan, daethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dŷ Philip yr efengyl-wr, ac yntau yn un o’r saith, arhosasom gydag ef.
9
Ac i hwn yr oedd pedair merch, morwynion, prophwydesau.
10
Ac wrth aros o honom ddyddiau lawer, daeth i wared o Iwdea, ryw brophwyd a’i enw Agabus.
11
Ac wedi dyfod attom a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei draed ei hun ac ei ddwylaw, dywedodd, Hyn a ddywaid yr Yspryd Glân, Y gŵr, eiddo yr hwn yw’r gwregys hwn, fel hyn y rhwym yr Iwddewon ef yn Ierwshalem, a thraddodant ef i ddwylaw’ r cenhedloedd.
12
A phan glywsom y pethau hyn, deisyfiasom, nyni a’r rhai oedd o’r fan hefyd, arno beidio a myned i fynu i Ierwshalem.
13
Yna yr attebodd Paul, Pa beth a wnewch yn gwylo ac yn torri fy nghalon? Canys myfi, nid yn unig i’m rhwymo, eithr i farw hefyd yn Ierwshalem, yr wyf barod, tros enw yr Arglwydd Iesu.
14
A chan na chymmerai ei berswadio, peidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15
Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi casglu ein beichiau, aethom i fynu i Ierwshalem;
16
a daeth hefyd gyda ni rai o’r disgyblion o Cesarea, yn dwyn gyda hwynt yr hwn y llettyem gydag ef, un Mnasom o Cuprus, disgybl er’s y dechreuad.
17
Ac wedi dyfod o honom i Ierwshalem, gyda llawenydd y derbyniodd y brodyr ni.
18
A thrannoeth yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, a’r holl henuriaid oeddynt bresennol.
19
Ac wedi eu cyfarch, mynegodd, bob yn un, bob un o’r pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
20
A hwy, wedi clywed, a ogoneddent Dduw; a dywedasant wrtho, Gweli, frawd pa sawl myrddiwn sydd ymhlith yr Iwddewon, o’r rhai a gredasant, a phawb o honynt, selog dros y Gyfraith ydynt.
21
Ac hyspyswyd iddynt am danat mai ymadawiad â Mosheh a ddysgi i’r holl Iwddewon y sydd ymhlith y cenhedloedd, gan ddywedyd iddynt beidio ag amdorri ar eu plant, na rhodio yn y defodau.
22
Pa beth, gan hyny, sydd? Beth bynnag a fyddo, clywant y daethost.
23
Hyn, gan hyny, gwna, yr hwn a ddywedwn wrthyt, y mae genym bedwar dyn a chanddynt adduned arnynt eu hunain.
24
Y rhai hyn cymmer attat, a glanhaer di ynghyda hwynt, a gwna’r draul drostynt fel yr eilliont eu pennau, a gwybydd pawb mai o’r pethau a hyspyswyd iddynt am danat, nid oes dim un yn bod, eithr rhodio yr wyt ti dy hun gan gadw’r Gyfraith.
25
Ond am y cenhedloedd a gredasant nyni a orchymynasom, gan farnu ymgadw o honynt oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulunod, a gwaed, a’r peth tagedig, a phuteindra.
26
Yna Paul, wedi cymmeryd y dynion atto, trannoeth, wedi ei lanhau ynghyda hwynt, yr aeth i mewn i’r deml, gan hyspysu cyflawniad dyddiau’r glanhad, nes yr offrymmid yr offrwm dros bob un o honynt.
27
A phan oedd y saith niwrnod ar fedr eu cyflawni, yr Iwddewon o Asia, wedi ei weled yn y deml, a derfysgasant yr holl dyrfa,
28
a dodasant eu dwylaw arno, dan waeddi, Gwŷr Israeliaid, cynnorthwywch. Hwn yw’r dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl a’r Gyfraith a’r lle hwn; ac, heblaw hyny, Groegiaid a ddug efe i mewn i’r deml, ac halogodd y lle sanctaidd hwn.
29
Canys cyn hyny gwelsent Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn a dybient y dug Paul ef i mewn i’r deml.
30
A chynhyrfwyd y ddinas oll, a bu cyd-rediad y bobl. Ac wedi cymmeryd gafael ar Paul, llusgasant ef i’r tu allan o’r deml; ac yn uniawn y cauwyd y drysau.
31
Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth gair i fynu at filwriad y fyddin fod yr oll o Ierwshalem mewn terfysg;
32
ac efe allan o law, wedi cymmeryd atto filwyr a chanwriad, a redodd i wared attynt; a hwy, gan weled y milwriad a’r milwyr, a beidiasant a churo Paul.
33
Yna, wedi nesau o hono, y milwriad a ymaflodd ynddo ac a orchymynodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai:
34
a rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod sicrwydd o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i’r castell.
35
A phan yr oedd efe ar y grisiau, digwyddodd ei gludo gan y milwyr o achos trais y dyrfa,
36
canys canlynai lliaws y bobl dan waeddi, Ymaith ag ef.
37
A phan ar fedr ei ddwyn i mewn i’r castell, Paul a ddywedodd wrth y milwriad, A ganiatteir i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, Ai Groeg a fedri?
38
Nid tydi, gan hyny, yw’r Aiphtiwr, yr hwn cyn y dyddiau hyn a gyfododd derfysg, ac a ddug allan i’r anialwch bedair mil o ddynion o’r llofruddion?
39
A dywedodd Paul, Myfi wyf Iwddew, o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog, a deisyfiaf arnat, ganiattau i mi lefaru wrth y bobl.
40
Ac wedi caniattau o hono, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â’i law ar y bobl; a distawrwydd mawr wedi ei wneuthur, llefarodd yn iaith yr Hebreaid, gan ddywedyd,
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28