bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 18
Acts 18
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Ac ar ol y pethau hyn, wedi ymadael ag Athen, daeth efe i Corinth;
2
ac wedi cael rhyw Iwddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, ac newydd ddyfod o’r Ital, a Priscila ei wraig ef (am orchymyn o Claudias ymadael o’r holl Iwddewon o Rufain), yr aeth attynt;
3
a chan mai o’r un gelfyddyd yr oedd, arhoes gyda hwynt, a gweithient, canys yr oeddynt yn wneuthurwyr pebyll wrth eu celfyddyd.
4
Ac ymresymmodd yn y sunagog bob Sabbath, a pherswadiai Iwddewon a Groegiaid hefyd.
5
A phan ddaeth Silas a Timotheus hefyd o Macedonia, yn y Gair y cadwyd Paul, gan dystiolaethu i’r Iwddewon mai Iesu oedd y Crist.
6
Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, gan ysgwyd ei ddillad, dywedodd wrthynt, Eich gwaed, ar eich pennau eich hunain y mae: glân wyf fi: o hyn allan at y cenhedloedd yr af.
7
Ac wedi myned oddi yno, aeth i dŷ rhyw un a’i enw Titus Iwstus, dyn yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r sunagog.
8
A Crispus yr arch-sunagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyda’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, wrth glywed, a gredent ac a fedyddid.
9
A dywedodd yr Arglwydd, liw nos, trwy weledigaeth, wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw;
10
canys Myfi wyf gyda thi, ac nid ymesyd neb arnat i’th ddrygu; canys pobl lawer sydd Genyf yn y ddinas hon.
11
Ac arhosodd efe flwyddyn a chwe mis, yn dysgu yn eu plith Air Duw.
12
A Galio yn rhaglaw yn Achaia, yn unfryd y cyfododd yr Iwddewon yn erbyn Paul, a dygasant ef ger bron y frawd-faingc,
13
gan ddywedyd, Yn erbyn y Gyfraith y mae hwn yn perswadio dynion i addoli Duw.
14
A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iwddewon, Pe bai rhyw anghyfiawnder neu anfadrwydd drwg, O Iwddewon, wrth reswm y cyd-ddygaswn â chwi;
15
ond os cwestiynnau y sydd am air ac enwau a’r Gyfraith sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys barnwr y pethau hyn nid ewyllysiaf fi fod:
16
a gyrrodd hwynt ymaith oddi wrth y frawd-faingc.
17
A phawb o honynt wedi cymmeryd gafael ar Sosthenes yr arch-sunagogydd, a’i curent ef o flaen y frawd-faingc; ac am ddim o’r pethau hyn nid oedd waeth gan Galio.
18
A Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, ar ol canu’n iach i’r brodyr, a fordwyodd ymaith i Suria, ac ynghydag ef Priscila ac Acwila, wedi cneifio o hono ei ben yn Cenchrea, canys yr oedd arno adduned.
19
A daethant i Ephesus, a hwynt-hwy a adawodd efe yno; ond efe ei hun, wedi myned i mewn i’r sunagog,
20
a ymresymmodd â’r Iwddewon: ac wrth ofyn o honynt iddo aros fwy o amser, ni chydsyniodd,
21
eithr wedi canu’n iach iddynt a dywedyd, Dychwelaf trachefn attoch, os myn Duw, hwyliodd ymaith o Ephesus.
22
Ac wedi dyfod i wared i Cesarea, a myned i fynu a chyfarch yr eglwys, aeth i wared i Antiochia.
23
Ac wedi treulio talm o amser, yr aeth ymaith, gan dramwy mewn trefn, trwy wlad Galatia a Phrugia, gan gadarnhau yr holl ddisgyblion.
24
A rhyw Iwddew a’i enw Apolos, Alecsandriad o genedl, gŵr dysgedig, a ddaeth i Ephesus, ac yntau yn alluog yn yr Ysgrythyrau.
25
Hwn oedd wedi ei ddysgu yng nghrefydd yr Arglwydd; ac yn wresog yn yr yspryd, llefarai a dysgai yn fanwl y pethau ynghylch yr Iesu, heb wybod ond bedydd Ioan.
26
A hwn a ddechreuodd lefaru yn hyderus yn y sunagog; ac wedi ei glywed, Priscila ac Acwila a’i cymmerasant attynt, ac esponiasant yn fanylach iddo grefydd Dduw.
27
Ac efe yn ewyllysio tramwy i Achaia, y brodyr, gan ei annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef, ac efe, wedi ei ddyfod, a gynnorthwyodd lawer y rhai a gredasant trwy ras;
28
canys yn egniol y gor-ddadleuai yr Iwddewon, gan ddangos trwy’r Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28