bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 28
Acts 28
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuant mai Melita a elwid yr ynys.
2
A’r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch nid cyffredin; canys cynneuasant dân, a derbyniasant yr oll o honom, o herwydd y gwlaw cynrychiol, ac o herwydd yr oerfel.
3
Ac wedi casglu o Paul ryw faint o friw-wydd, ac eu dodi ar y tân, gwyber wedi dyfod allan o achos y gwres, a lynodd wrth ei law ef.
4
A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, dywedasant wrth eu gilydd, Yn sicr llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, wedi ei achub o’r môr, cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.
5
Efe, gan hyny, wedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niweid.
6
A hwy a ddisgwylient ei fod ar fedr chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymmwth yn farw; a phan am amser hir y disgwylient, ac y gwelent nad oedd dim niweid yn digwydd iddo, gan newid eu meddwl, dywedasant mai duw oedd efe.
7
Ac yn agos i’r fan honno yr oedd tiroedd yn perthyn i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd, a thridiau y llettyodd ni yn garedig.
8
A digwyddodd fod tad Publius, wedi ei ddala gan gryd a gwaedlif, yn cadw ei wely; at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, gan ddodi ei ddwylaw arno, yr iachaodd ef.
9
A hyn wedi digwydd, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chanddynt heintiau, a ddaethant atto ac a iachawyd;
10
y rhai hefyd, â llawer o anrhegion yr anrhydeddasant ni; ac wrth fyned o honom ymaith, rhoisant yn y llong y pethau yn perthyn i’n hangenrheidiau.
11
Ac wedi tri mis aethom ymaith mewn llong a auafasai yn yr ynys, un o Alexandria, a’i harwydd Dioscwroi.
12
Ac wedi troi i mewn i Suracwsai, arhosasom yno dridiau.
13
Ac oddi yno, wedi myned o amgylch, y daethom i Rhegium; ac ar ol un diwrnod deheu-wynt a gyfododd, ac yr ail ddydd daethom i Puteoli;
14
lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly i Rhufain y daethom.
15
Ac oddi yno, y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i’n cyfarfod hyd Appii Fforum a Tres Tabernæ; a phan y’u gwelodd, Paul a ddiolchodd i Dduw ac a gymmerth galon.
16
A phan ddaethom i Rhufain, caniattawyd i Paul aros wrtho ei hun, ynghyda’r milwr oedd yn ei gadw ef.
17
A digwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iwddewon: ac wedi dyfod o honynt ynghyd, dywedodd wrthynt, Myfi, frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y bobl na defodau ein tadau, yn garcharor y’m rhoddwyd o Ierwshalem i ddwylaw y Rhufeinwyr,
18
y rhai, wedi fy holi, a fynnasant fy ngollwng yn rhydd, gan nad oedd dim achos angau ynof.
19
Ond pan wrth-ddywedai yr Iwddewon, cymhellwyd fi i appelio at Cesar, nid fel pettai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono.
20
Am yr achos hwn, gan hyny, y deisyfiais arnoch weled ac ymddiddan â mi, canys o achos gobaith Israel yr wyf a’r gadwyn hon am danaf.
21
A hwy a ddywedasant wrtho, Nyni, na llythyrau am danat ni chawsom o Iwdea, na neb o’r brodyr wedi dyfod yma, a fynegodd nac a lefarodd ddim drwg am danat.
22
Ond dymunem glywed genyt ti pa beth yw dy feddwl, canys am y sect hon, hyspys yw i ni mai ymhob man y dywedir yn ei herbyn.
23
Ac wedi gosod o honynt ddiwrnod iddo, daethant atto i’w letty, llawer o honynt; i’r rhai yr esponiodd efe, gan dystiolaethu teyrnas Dduw, a’u perswadio ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Mosheh, a’r Prophwydi, o’r bore hyd yr hwyr.
24
A rhai a gredasant y pethau a ddywedwyd a rhai ni chredasant.
25
Ac yn anghyttun â’u gilydd, yr ymadawsant, wedi dywedyd o Paul un gair, sef, Da y bu i’r Yspryd Glân lefaru, trwy Eshaiah y prophwyd,
26
wrth eich tadau, gan ddywedyd, “Dos at y bobl hyn a dywaid, A chlyw y clywch, ond ni ddeallwch; A chan weled y gwelwch ac ni chanfyddwch;
27
Canys brasawyd calon y bobl hyn, Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant, Ac eu llygaid a gauasant, Rhag gweled o honynt â’u llygaid, Ac â’u clustiau glywed, Ac â’u calon ddeall, A dychwelyd o honynt, Ac iachau o honof hwynt.”
28
Bydded hysbys, gan hyny, i chwi, mai i’r cenhedloedd y danfonwyd yr iachawdwriaeth hon o eiddo Duw; a hwy a wrandawant.
30
Ac arhosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, a derbyniodd bawb a oedd yn dyfod i mewn atto,
31
gan bregethu teyrnas Dduw, a dysgu’r pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyder yn ddirwystr.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28