bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 6
Acts 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Ac yn y dyddiau hyn, a’r disgyblion yn amlhau, y bu grwgnach gan yr Iwddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, o herwydd diystyru eu gwragedd gweddwon yn y ministriad beunyddiol.
2
Ac wedi galw attynt liaws y disgyblion, y deuddeg a ddywedasant, Nid yw’n dda genym i ni, gan ymadael â Gair Duw, wasanaethu byrddau.
3
Edrychwch, gan hyny, frodyr, am seithwyr o’ch plith i’r rhai y tystiolaethir, yn llawn o’r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ar y gorchwyl hwn;
4
ond nyni, mewn gweddi ac yn ngweinidogaeth y Gair y parhawn.
5
A boddhaol oedd yr ymadrodd yngolwg yr holl liaws; ac etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd a’r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas,
6
a Nicolas, proselyt o Antiochia; y rhai a osodasant hwy ger bron yr apostolion: ac wedi gweddïo o honynt hwy, dodasant eu dwylaw arnynt.
7
A gair Duw a gynnyddodd, ac amlhaodd rhifedi y disgyblion yn Ierwshalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.
8
A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion ym mhlith y bobl;
9
a chyfododd rhai o’r sunagog a elwir eiddo’r Libertiniaid, ac o’ r Cureniaid, ac o’r Alecsandriaid, ac o’r rhai o Cilicia ac Asia,
10
gan ymddadleu â Stephan: ac ni allent wrth-sefyll y doethineb a’r Yspryd trwy’r Hwn y llefarai.
11
Yna y danfonasant i mewn ddynion yn dywedyd, Clywsom ef yn llefaru ymadroddion cablaidd yn erbyn Mosheh a Duw;
12
a chynhyrfasant y bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, cipiasant ef, a dygasant ef i’r Cynghor,
13
a gosodasant au dystion yn dywedyd, Y dyn hwn ni pheidia â llefaru ymadroddion yn erbyn y lle sanctaidd hwn a’r Gyfraith,
14
canys clywsom ef yn dywedyd y bydd i’r Iesu y Natsaread hwn ddistrywio y lle hwn, a newid y defodau a draddododd Mosheh i ni.
15
A chan graffu arno gan bawb oedd yn eistedd yn y Cynghor, gwelent ei wyneb fel pe bai yn wyneb angel.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28