bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 19
Acts 19
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A digwyddodd, tra yr oedd Apolos yn Corinth, i Paul, wedi tramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod i Ephesus, a chael rhai disgyblion;
2
a dywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân wrth gredu? A hwy a ddywedasant wrtho, Eithr ni chlywsom ddim a oes Yspryd Glân.
3
A dywedodd, I ba beth, gan hyny, y’ch bedyddiwyd? A hwy a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4
A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl mai yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef y credent, hyny yw, yn yr Iesu.
5
Ac wedi clywed hyn, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu.
6
Ac wedi dodi o Paul ei ddwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant â thafodau, a phrophwydasant.
7
Ac yr oeddynt, yn y cwbl, ynghylch deuddeg o ddynion.
8
Ac wedi myned i mewn i’r sunagog, llefarodd yn hyderus am dri mis, gan ymresymmu a pherswadio y pethau ynghylch teyrnas Dduw.
9
A phan yr oedd rhai wedi caledu ac yn anufudd, gan ddywedyd yn ddrwg am y Grefydd ger bron y lliaws, gan sefyll draw oddi wrthynt neillduodd efe y disgyblion, gan ymresymmu beunydd yn ysgol Turannus:
10
a hyn a fu am ddwy flynedd, fel y bu i bawb yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iwddewon a Groegiaid hefyd.
11
A gwyrthiau nid cyffredin a wnaeth Duw trwy ddwylaw Paul,
12
fel at y cleifion y dygid ymaith oddi wrth ei gorph napcynau neu foledau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a’r ysprydion aflan a aent allan.
13
A chymmerodd rhai o’r Iwddewon crwydraid arnynt, consurwyr, enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Tynghedaf chwi trwy yr Iesu yr Hwn y mae Paul yn Ei bregethu.
14
Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iwddew ac archoffeiriad, yn gwneuthur hyn.
15
A chan atteb, yr yspryd drwg a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu a adwaen, a Paul sydd adnabyddus genyf, ond chwychwi, pwy ydych?
16
A chan neidio arnynt o’r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a chan feistroli ar y ddau, gorchfygodd yn eu herbyn, fel yn noethion ac yn archolledig y ffoisant o’r tŷ hwnw.
17
A hyn a fu hyspys gan yr holl Iwddewon a’r Groegiaid hefyd a breswylient yn Ephesus; a syrthiodd ofn ar yr oll o honynt, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu;
18
a llawer o’r rhai a gredasant, a ddaethant gan gyffesu a mynegi eu gweithredoedd;
19
a llawer o’r rhai a ddefnyddiasant swynyddiaeth, wedi dwyn eu llyfrau ynghyd, a’u llosgasant yngwydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt,
20
ac a’i cawsant yn bum myrddiwn o siclau arian; mor gadarn y bu i Air yr Arglwydd gynnyddu ac ymgryfhau.
21
A phan gyflawnwyd y pethau hyn arfaethodd Paul trwy’r Yspryd, gwedi tramwy o hono trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Ierwshalem, gan ddywedyd, Ar ol bod o honof yno, y mae rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
22
Ac wedi danfon i Macedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timothëus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd rhyw faint o amser yn Asia.
23
A digwyddodd ar yr amser hwnw, gynhwrf nid bychan ynghylch y Grefydd;
24
canys rhyw Demetrius wrth ei enw, gof arian, yn gwneuthur temlau Diana o arian, a roddai i’r crefftwyr waith nid ychydig.
25
Ac wedi casglu hwynt ynghyd, a’r rhai a weithient y fath bethau, dywedodd, Dynion, gwyddoch mai o’r gwaith hwn y mae ein helaethrwydd genym ni,
26
a gweled a chlywed yr ydych, y bu, nid yn unig yn Ephesus eithr bron dros yr holl Asia, i’r Paul hwn berswadio a throi ymaith lawer o bobl, gan ddywedyd,
27
Nid ydynt dduwiau, y rhai a wnair â dwylaw. Ac nid yn unig y rhan hon sydd mewn perygl i ni o ddyfod i ddirmyg, eithr teml y dduwies fawr Diana hefyd sydd mewn perygl o gael ei chyfrif yn ddiddym, ac i hithau hefyd gael ei thynnu i lawr o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.
28
Ac wedi clywed hyn, ac wedi myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
29
A llanwyd y ddinas o’r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd-ymdeithion Paul.
30
A Paul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo.
31
A rhai o bennaethiaid Asia, gan fod yn gyfeillion iddo, wedi danfon atto, a ddeisyfient arno beidio â myned i’r chwareufa.
32
Rhai, gan hyny, a waeddent un peth, ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynnulleidfa wedi ei therfysgu, a’r rhan fwyaf ni wyddent paham y daethent ynghyd.
33
Ac allan o’r dyrfa y dygasant Alecsander, yr Iwddewon yn ei roddi ymlaen, ac Alecsander,
34
wedi amneidio â’i law, a fynnai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl. Ond wrth wybod o honynt mai Iwddew yw,
35
un llef fu, gan yr oll o honynt, yn gwaeddi am ynghylch dwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Ac ysgrifenydd y ddinas, wedi llonyddu’r dyrfa, a ddywedodd, Gwŷr Ephesus, canys pwy sydd o ddynion na ŵyr mai dinas yr
36
Ephesiaid yw ceidwad teml Diana fawr ac o’r ddelw a syrthiodd i lawr oddiwrth Iwpeter? Gan na ellir, gan hyny,
37
wrth-ddywedyd y pethau hyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, a pheidio â gwneuthur dim sydd fyrbwyll;
38
canys dygasoch yma y dynion hyn, nac yn yspeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. Os oes, gan hyny, gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, air yn erbyn neb, y mae’r brawd-ddyddiau ar droed,
39
ac y mae rhaglawiaid; cyhuddant y naill y llall; ond os ynghylch pethau eraill y ceisiwch rywbeth,
40
mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y penderfynir ef. Canys yr ydym, yn wir, mewn perygl o’n cyhuddo am y terfysg heddyw, heb ddim achos o hono yn bod; ac am y peth hwn nis gallwn roddi cyfrif am yr ymgyrch hwn.
41
Ac wedi dywedyd hyn, gollyngodd ymaith y gynnulleidfa.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28