bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 20
Acts 20
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Ac ar ol peidio o’r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y disgyblion, ac eu cynghori a’u cofleidio, a aeth allan i fyned i Macedonia;
2
ac wedi tramwy trwy’r parthau hyny, a’u cynghori hwynt ag ymadrodd lawer, daeth i dir Groeg.
3
Ac wedi treulio tri mis yno, cynllwyn wedi ei wneuthur gan yr Iwddewon iddo pan ar fedr morio i Suria, pender-fynodd ddychwelyd trwy Macedonia:
4
a chyd-ymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, mab Purrhus, ac o’r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Dderbe, a Timothëus;
5
ac o’r Asiaid, Tuchicus a Trophimus. A’r rhai hyn, wedi myned o’r blaen, a arhosasant am danom yn Troas,
6
a ninnau a fordwyasom ymaith, ar ol dyddiau y bara croyw, o Philippi, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum niwrnod; ac yno yr arhosasom saith niwrnod.
7
Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a nyni wedi dyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth, ac estynodd yr ymadrodd hyd hanner nos.
8
Ac yr oedd llusernau lawer yn y llofft lle yr oeddym wedi dyfod ynghyd.
9
A chan eistedd o ryw ŵr ieuangc a’i enw Eutuchus, yn y ffenestr, wedi syrthio i drymgwsg wrth ymresymmu o Paul yn helaethach, wedi ei ddwyn i wared gan ei gwsg, cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, a chymmerwyd ef i fynu yn farw.
10
Ac wedi myned i lawr, Paul a syrthiodd arno, a chan ei gofleidio, dywedodd, na chyffroed arnoch, canys y mae ei fywyd ynddo.
11
Ac wedi myned i fynu, a thorri’r bara, a bwytta, ac ymddiddan am amser hir, hyd dorriad y dydd, yr aeth efe yn ebrwydd ymaith.
12
A daethant â’r bachgen yn fyw, a chysurwyd hwynt yn ddirfawr.
13
A nyni wedi myned o’r blaen at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr oddiyno gymmeryd i fynu Paul, canys felly yr appwyntiasai pan ar fedr myned ei hun ar ei draed.
14
A phan gyfarfu efe â ni yn Assos, wedi ei gymmeryd ef i fynu, daethom i Mitulene.
15
Ac wedi hwylio oddi yno, trannoeth y daethom cyferbyn â Chios; a thradwy troisom i mewn i Samos, ac ar y dydd canlynol daethom i Miletus;
16
canys penderfynasai Paul hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia, canys brysiai, os byddai bosibl iddo, fod ar ddydd y Pentecost yn Ierwshalem.
17
Ac o Miletus y danfonodd i Ephesus, a galwodd atto henuriaid yr eglwys; a phan ddaethant atto, dywedodd wrthynt,
18
Chwi a wyddoch er y dydd cyntaf y rhoddais fy nhraed yn Asia,
19
pa fodd y bu’m gyda chwi yr holl amser, gan wasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau y rhai a ddigwyddasant i mi trwy gynllwynion yr Iwddewon,
20
y modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol, fel na fynegwn hwynt i chwi a’ch dysgu ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ;
21
gan dystiolaethu i Iwddewon a Groegiaid hefyd edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.
22
Ac yn awr, wele myfi yn rhwym yn yr yspryd wyf yn myned i Ierwshalem, heb wybod y pethau a ddigwyddant i mi ynddi,
23
oddieithr fod yr Yspryd Glân, ymhob dinas, yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros.
24
Eithr dim cyfrif yn y byd yr wyf yn ei wneud o’m heinioes, fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y cyflawnwyf fy rhedfa a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, ac y tystiolaethwyf efengyl gras Duw.
25
Ac yn awr, wele, myfi a wn na welwch chwi oll mo’m gwyneb mwyach, ymhlith y rhai y tramwyais yn pregethu’r deyrnas;
26
canys tystiolaethu yr wyf i chwi y dydd heddyw mai glân wyf oddi wrth waed pawb;
27
canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gynghor Duw.
28
Cymmerwch ofal am danoch eich hunain, ac am yr holl braidd yn yr hwn yr Yspryd Glân a’ch gosododd chwi yn esgobion, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a ennillodd Efe trwy Ei waed Ef Ei hun.
29
Myfi a wn y daw i mewn i’ch plith ar ol fy ymadawiad fleiddiau gorthrymmus, nad arbedant y praidd.
30
Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd dynion yn llefaru pethau gwyr-draws er mwyn tynnu ymaith y disgyblion ar eu hol.
31
Gan hyny, gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais â chynghori, gyda dagrau, bob un o honoch.
32
Ac yn awr eich gorchymyn yr wyf i Dduw ac i air Ei ras Ef, yr hwn sydd abl i’ ch adeiladu ac i roddi yr etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
33
Arian neu aur neu wisg neb, ni chwenychais.
34
Chwi eich hunain a wyddoch mai i’m cyfreidiau, ac i’r rhai oedd gyda mi, y gwasanaethodd y dwylaw hyn.
35
Ymhob peth y rhoddais i chwi siampl, mai wrth lafurio felly y mae rhaid cynnorthwyo’r gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, iddo Ef Ei hun ddywedyd, “Dedwydd yw rhoddi rhagor derbyn.”
36
Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a dodi ei liniau i lawr, ynghyda hwynt oll y gweddïodd;
37
a mawr oedd gwylofain pawb;
38
ac wedi syrthio ar wddf Paul, cusanent ef, gan ymofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai nad ydynt mwyach ar fedr gweled ei wyneb ef; ac hebryngasant ef i’r llong.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28