bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 26
Acts 26
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniatteir i ti ddywedyd drosot dy hun. Yna Paul, wedi estyn ei law, a amddiffynodd ei hun;
2
Ynghylch yr holl bethau y cyhuddir fi o honynt gan yr Iwddewon, frenhin Agrippa, tybiaf fy hun yn ddedwydd gan mai ger dy fron di yr wyf ar fedr amddiffyn fy hun heddyw;
3
yn enwedig gan dy fod yn gydnabyddus â’r holl ddefodau ymhlith yr Iwddewon, a’r cwestiynnau hefyd; o herwydd paham deisyfiaf arnat fy ngwrando yn amyneddus.
4
Fy muchedd, gan hyny, o’m hieuengetyd, yr hon, o’r dechreuad, a fu ymhlith fy nghenedl yn Ierwshalem, a ŵyr yr holl Iwddewon,
5
gan fy adnabod o’r cyntaf, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y sect fanylaf o’n crefydd y bu’m fyw yn Pharishead.
6
Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau ni gan Dduw, yr wyf yn sefyll yn cael fy marnu;
7
i’r hwn addewid, ein deuddeg llwyth gyda thaerni, nos a dydd, yn gwasanaethu Duw, a obeithiant ddyfod; am yr hwn obaith y cyhuddir fi gan yr Iwddewon, O frenhin.
8
Paham mai anghredadwy y bernir yn eich plith y bydd i Dduw gyfodi’r meirw?
9
Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun, mai yn erbyn enw Iesu y Natsaread yr oedd rhaid gwneuthur llawer o bethau gwrthwynebol.
10
Yr hyn hefyd a wnaethum yn Ierwshalem; a llawer hefyd o’r saint myfi a gauais mewn carcharau, wedi derbyn yr awdurdod gan yr archoffeiriaid; a phan laddwyd hwy, yn eu herbyn y rhoddais fy llais.
11
Ac yn yr holl sunagogau, llawer gwaith, gan eu cospi y cymhellwn hwynt i gablu; a thros ben allan o’m pwyll yn eu herbyn, erlidiwn hwynt hyd y dinasoedd estronol hefyd.
12
Ac yn y pethau hyn wrth fyned i Damascus gydag awdurdod a chaniattad oddiwrth yr archoffeiriaid,
13
ar hanner dydd ar y ffordd y gwelais, O frenhin, oleuni o’r nef, tu hwnt i ddisgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, ac o amgylch y rhai yn myned gyda mi.
14
A’r oll o honom wedi syrthio i lawr ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn iaith yr Hebreaid, Shawl, Shawl, paham mai myfi a erlidi? Caled i ti yw gwingo yn erbyn y symbylau.
15
Ac myfi a ddywedais, Pwy wyt, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
16
Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys er hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod yn weinidog ac yn dyst yn gystal o’r pethau yn y rhai y gwelaist Fi,
17
ag o’r rhai yr ymddangosaf i ti yn ddynt, gan dy wared oddiwrth y bobl, ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy ddanfon i agoryd eu llygaid,
18
er mwyn troi o honynt o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn derbyn o honynt faddeuant pechodau ac etifeddiaeth ym mysg y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd Ynof.
19
O achos hyn, O frenhin, ni fu’m anufudd i’r weledigaeth nefol,
20
eithr i’r rhai yn Damascus yn gyntaf, ac Ierwshalem hefyd, a thrwy holl wlad Iwdea, ac i’r cenhedloedd y mynegais ar edifarhau a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.
21
O achos y pethau hyn yr Iwddewon, wedi fy nal yn y deml, a geisiasant fy lladd i.
22
Wedi cael, gan hyny y cymmorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fychain a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na’r pethau y bu i’r Prophwydi lefaru am danynt megis ar fedr digwydd, a Mosheh hefyd,
23
mai i ddioddef yr oedd Crist, mai Efe yn gyntaf, trwy adgyfodiad y meirw, oedd ar fedr mynegi goleuni i’r bobl, ac i’r cenhedloedd hefyd.
24
A phan â’r pethau hyn yr amddiffynodd ei hun, Ffestus â llef uchel a ddywedodd, Allan o’th bwyll yr wyt, Paul; mawredd dy ddysg, i ammhwylldra y’th dry.
25
Ond Paul, Nid allan o’m pwyll yr wyf, ebr efe, ardderchoccaf Ffestus, eithr ymadroddion gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd;
26
canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd gydag hyder yr wyf yn llefaru; canys fod rhyw beth o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo, nid wyf yn credu modd yn y byd, canys nid mewn congl y gwnaed hyn.
27
Ai credu’r Prophwydi yr wyt, frenhin Agrippa?
28
Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Rhyw ychydig y perswadi fi, i wneuthur Cristion o honof.
29
A Paul a ddywedodd, Dymunwn gan Dduw, am nid “rhyw ychydig” ond yn fawr y byddai nid tydi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n fy nghlywed heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, namyn y rhwymau hyn.
30
A chyfododd y brenhin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn cyd-eistedd â hwynt;
31
ac wedi cilio o honynt, llefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid oes dim yn haeddu angau neu rwymau a wnaeth y dyn hwn.
32
Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ei ollwng ymaith yn rhydd a allasai’r dyn hwn, pe na fuasai iddo appelio at Cesar.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28