bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 17
Acts 17
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Ac wedi tramwy trwy Amphipolis ac Apolonia, daethant i Thessalonica,
2
lle yr oedd sunagog i’r Iwddewon. Ac yn ol arfer Paul, yr aeth efe i mewn attynt;
3
a thri Sabbath yr ymresymmodd â hwynt allan o’r Ysgrythyrau, gan agoryd a dodi ger eu bronau yr oedd rhaid i Grist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai Hwn yw y Crist, yr Iesu, yr Hwn yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
4
A rhai o honynt a berswadiwyd ac a gyssylltwyd â Paul a Silas, ac o’r Groegiaid defosiynol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig.
5
A’r Iwddewon yn eiddigus, ac wedi cymmeryd attynt o’r gwerinos ryw ddynion drwg, ac wedi casglu tyrfa, a gynnyrfasant y ddinas; ac wedi ymosod ar dŷ Iason, ceisient hwynt er mwyn eu dwyn at y bobl.
6
A phan na chawsant hwynt, llusgasant Iason a rhai o’r brodyr ger bron llywodraethwyr y ddinas, gan floeddio, Y rhai sy’n troi’r byd a’i waelod i fynu, y rhai hyn a ddaethant yma hefyd;
7
y rhai a dderbyniodd Iason; a’r rhai hyn oll, yn erbyn dedfrydau Cesar y gweithredant, gan ddywedyd mai brenhin arall sydd, Iesu.
8
A chyffroisant y dyrfa a llywodraethwyr y ddinas, wrth glywed y pethau hyn.
9
Ac wedi cael sicrwydd gan Iason a’r lleill, gollyngasant hwynt ymaith.
10
A’r brodyr yn uniawn, liw nos, a ddanfonasant ymaith Paul a Silas i Berea; a hwy wedi bod yn sunagog yr Iwddewon, a aethant ymaith.
11
A’r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai yn Thessalonica, gan dderbyn o honynt y Gair gyda phob parodrwydd, beunydd yn holi yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly.
12
Llawer, gan hyny, o honynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.
13
A phan wybu yr Iwddewon o Thessalonica y mynegid Gair Duw yn Berea, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd.
14
Ac yna, yn uniawn, y danfonodd y brodyr Paul ymaith, i fyned hyd at y môr; ac arhosodd Silas a Timotheus hefyd yno.
15
A’r rhai a arweinient Paul, a aethant ag ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Timothëus ar ddyfod o honynt atto y cyntaf bossibl, aethant ymaith.
16
Ac yn Athen, tra y disgwylid hwynt gan Paul, cynhyrfwyd ei yspryd ynddo wrth weled o hono y ddinas yn llawn o eulunod.
17
Ymresymmodd, gan hyny, yn y sunagog, â’r Iwddewon a’r rhai defosiynol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef.
18
A rhai hefyd o’r philosophyddion Epicwraidd a Stoicaidd a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Pa beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? Ac eraill, Duwiau dieithr, debyg, a fynega efe, gan mai yr Iesu a’r adgyfodiad a efengylai efe.
19
Ac wedi ei ddal ef, i’r Areopagus y dygasant ef, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod pa beth yw’r ddysg newydd hon a leferir genyt,
20
canys rhyw bethau dieithr a ddygi i’n clustiau? Ewyllysiem, gan hyny, wybod pa beth yw meddwl y pethau hyn.
21
(A’r Atheniaid oll, a’r dieithriaid yn ymdeithio yno, ar ddim arall ni threulient eu hamser ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth newydd.)
22
A chan sefyll o Paul ynghanol yr Areopagus, dywedodd, Atheniaid, ymhob peth y gwelaf eich bod yn dra-chrefyddol;
23
canys wrth fyned heibio ac edrych ar wrthddrychau eich addoliad, cefais hefyd allor yn yr hon yr argraphasid I Dduw Anhyspys; yr hyn, gan hyny, yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
24
Y Duw a wnaeth y byd a phob peth sydd ynddo, Efe, gan mai ar y nef a’r ddaear y mae yn Arglwydd, nid mewn temlau o waith llaw y trig;
25
ac nid â dwylaw dynol y gwasanaethir Ef, gan fod ag eisiau dim Arno, ac Efe yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl a phob peth.
26
A gwnaeth Efe o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, wedi pennodi amseroedd appwyntiedig a therfynau eu preswylfod;
27
i geisio o honynt Dduw, os ysgatfydd yr ymbalfalent am Dano ac Ei gael, ond er hyny heb fod o Hono ymhell oddiwrth bob un o honom;
28
canys Ynddo Ef yr ydym yn byw ac yn ymsymmud ac yn bod, fel y bu i rai o’r poetau yn eich plith chwi ddywedyd, “Canys Ei hiliogaeth Ef hefyd ydym.”
29
Gan fod o honom, gan hyny, yn hiliogaeth Duw, nis dylem feddwl mai i aur neu arian neu faen, cerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn, y mae’r Duwdod yn debyg.
30
Ar amseroedd yr anwybodaeth, gan hyny, ni sylwodd Duw, ond yn awr y gorchymyn Efe i ddynion, i bawb ymhob man,
31
edifarhau, canys gosododd ddydd yn yr hwn y mae Efe ar fedr barnu’r byd mewn cyfiawnder trwy’r dyn a appwyntiodd Efe; a sicrwydd a roes Efe i bawb, gan Ei adgyfodi Ef o feirw.
32
Ac wrth glywed am “Adgyfodiad y meirw,” rhai a watwarasant; ond eraill a ddywedasant, Clywn di am y peth hwn etto hefyd.
33
Felly Paul a aeth allan o’u canol hwynt;
34
ond rhai dynion a lynasant wrtho ac a gredasant, ymhlith y rhai yr oedd Dionusius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris hefyd, ac eraill gyda hwynt.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28