bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 3
Acts 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
A Petr ac Ioan a aethant i fynu i’r deml ar awr weddi, sef y nawfed.
2
Ac rhyw ddyn, cloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a aent i mewn i’r deml.
3
Ac efe, gan weled Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ofynodd gael elusen.
4
A chan edrych yn graff arno, Petr ynghydag Ioan a ddywedodd, Edrych arnom.
5
Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6
A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes genyf; ond yr hyn y sydd genyf, hyny i ti y’i rhoddaf.
7
Yn enw Iesu Grist y Natsaread, rhodia. Ac wedi ei gymmeryd erbyn ei law ddehau, cyfododd ef;
8
ac yn uniawn y cadarnhawyd ei draed ef a’i fferau: a chan neidio i fynu, safodd, a rhodiodd, ac aeth i mewn ynghyda hwynt i’r deml, yn rhodio a neidio a moli Duw.
9
A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw;
10
ac adnabyddent ef, mai efe oedd yr hwn a eisteddai, am elusen, wrth borth Prydferth y deml; a llanwyd hwy o syndod a dychryn am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
11
Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, attynt y cyd-redodd yr holl bobl yn y cyntor a elwir Cyntor Shalomon, mewn syndod mawr.
12
A Petr, gan weled hyn, a attebodd i’r bobl, Gwŷr Israel, paham y rhyfeddwch wrth hyn, neu arnom ni y craffwch, fel pe bai trwy ein gallu neu ein duwioldeb ni ein hunain y gwnaethom i hwn rodio?
13
Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd Ei Fab Iesu, yr Hwn, chwi yn wir a’i traddodasoch ac a’i gwadasoch ger bron Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng Ef yn rhydd;
14
ond chwychwi, y Sanct a Chyfiawn a wadasoch, a gofynasoch am i ddyn llofruddiog gael ei roddi i chwi,
15
a Thywysog y Bywyd a laddasoch, yr Hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion.
16
A thrwy ffydd yn Ei enw Ef, yr hwn a welwch ac a adnabyddwch, Ei enw Ef a’i cadarnhaodd; ac y ffydd y sydd Trwyddo Ef, a roddes i hwn yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.
17
Ac yn awr, frodyr, gwn mai trwy anwybod y gwnaethoch, fel y gwnaeth eich pennaethiaid hefyd.
18
Ond Duw felly a gyflawnodd y pethau a rag-fynegasai Efe trwy enau Ei holl brophwydi, y dioddefai Ei Grist Ef.
19
Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, fel y delo amseroedd dadebriad oddi ger bron yr Arglwydd,
20
ac y danfono’r Crist a rag-ordeiniwyd i chwi,
21
yr Iesu, yr Hwn y mae rhaid i’r nef Ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau a lefarodd Duw trwy enau Ei brophwydi sanctaidd erioed.
22
Mosheh yn wir a ddywedodd, “Prophwyd i chwi a gyfyd Iehofah Duw o’ch brodyr, fel myfi. Arno Ef y gwrandewch, yn yr holl bethau, cynnifer ag a lefara Efe wrthych;
23
a bydd pob enaid na wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.”
24
A’r holl brophwydi o Shamuel a’r rhai canlynol, cynnifer ag a lefarasant, fynegasant hefyd y dyddiau hyn.
25
Chwychwi ydych feibion y prophwydi a’r cyfammod yr hwn a ammododd Duw â’n tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, “Ac yn dy had y bendithir holl dylwythau’r ddaear.”
26
Attoch chwi yn gyntaf, y bu i Dduw, gwedi cyfodi Ei Fab, Ei ddanfon Ef yn eich bendithio trwy droi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28