bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 14
Acts 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i sunagog yr Iwddewon, a llefaru felly fel y credodd lliaws mawr o Iwddewon ac o Roegwyr hefyd;
2
ond yr Iwddewon anghrediniol a gyffroisant ac a ddrwg-ddylanwadasant feddyliau’r cenhedloedd yn erbyn y brodyr.
3
Amser maith, gan hyny, yr arhosasant yno, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr Hwn a dystiolaethai i Air Ei ras, gan roddi i arwyddion a rhyfeddodau eu gwneuthur trwy eu dwylaw hwynt.
4
A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda’r Iwddewon, a rhai gyda’r apostolion.
5
A phan wnaethpwyd rhuthr o’r cenhedloedd ac o’r Iwddewon ynghyda’u pennaethiaid, i’w sarhau hwynt ac i’w llabyddio:
6
gan wybod hyn, ffoisant i ddinasoedd Lucaonia a Derbe,
7
ac i’r wlad oddi amgylch; ac yno yr oeddynt yn efengylu.
8
Ac rhyw ddyn yn Lustra yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, dyn cloff o groth ei fam, yr hwn ni rodiasai erioed.
9
Hwn a glybu Paul yn llefaru; yr hwn, wedi edrych yn graff arno,
10
a gweled fod ganddo ffydd i’w iachau, a ddywedodd â llais uchel, Saf ar dy draed yn syth; a neidiodd efe, a rhodiodd.
11
A’r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu lleisiau, gan ddywedyd yn iaith Lucaonia, Y duwiau, wedi eu cyffelybu i ddynion,
12
a ddisgynasant attom; a galwasant Barnabas “Iwpeter,” a Paul “Mercurius,” gan mai efe oedd yr ymadroddwr pennaf.
13
Ac offeiriad teml Iwpiter, yr hon sydd o flaen y ddinas, wedi dyfod â theirw a garlandau at y pyrth, a ewyllysiai, ynghyda’r torfeydd, aberthu.
14
Ac wedi clywed hyn, yr apostolion, Barnabas a Paul, gan rwygo eu cochlau,
15
a neidiasant allan ymhlith y dyrfa, dan waeddi, a dywedyd, Dynion, paham mai’r pethau hyn a wnewch? Ninnau hefyd, yn dioddef cyffelyb bethau a chwychwi yr ydym, yn ddynion, ac yn efengylu i chwi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r holl bethau y sydd ynddynt:
16
yr Hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a adawodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain:
17
ond er hyny, nid heb dystiolaeth y gadawodd Efe Ef ei hun, gan wneuthur daioni, a rhoddi o’r nef i chwi wlawodydd a thymhorau ffrwythlon, a llenwi eich calonnau â lluniaeth a llawenydd.
18
A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd y gwnaethant i’r torfeydd beidio ag aberthu iddynt.
19
A daeth yno Iwddewon, o Antiochia ac Iconium; ac wedi perswadio’r torfeydd a llabyddio Paul, llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
20
A’r disgyblion wedi ei amgylchu ef, wedi cyfodi yr aeth i mewn i’r ddinas; a thrannoeth yr aeth allan ynghyda Barnabas i Derbe.
21
Ac wedi efengylu i’r ddinas honno, a gwneuthur disgyblion lawer, dychwelasant i Lustra ac i Iconium ac i Antiochia,
22
gan gadarnhau eneidiau y disgyblion, gan gynghori iddynt aros yn y ffydd, a dweud mai trwy lawer o orthrymderau y mae rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw.
23
Ac wedi dewis iddynt henuriaid ym mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghydag ymprydiau, gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yn yr Hwn y credasant.
24
Ac wedi tramwy trwy Pisidia, daethant i Pamphulia;
25
ac wedi llefaru y Gair yn Perga, daethant i wared i Attalea;
26
ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, o’r hon y gorchymynasid hwynt i ras Duw i’r gwaith a gyflawnasant.
27
Ac wedi dyfod a chasglu’r eglwys ynghyd, mynegasant faint o bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac yr agorodd Efe i’r cenhedloedd ddrws ffydd.
28
Ac arhosasant amser nid bychan ynghyda’r disgyblion.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28