bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 9
Acts 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
A Shawl, etto yn chwythu bwgwth a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, wedi myned at yr archoffeiriad,
2
a ddeisyfiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y sunagogau, fel os cai rai o’r ffordd honno, na gwŷr na gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Ierwshalem.
3
Ac wrth fyned o hono, bu iddo nesau i Damascus, ac yn ddisymmwth y llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef:
4
ac wedi syrthio ar y ddaear, clywodd lais yn dywedyd wrtho, Shawl, Shawl, paham mai Myfi a erlidi?
5
A dywedodd efe, Pwy wyt, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd, Myfi wyf Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
6
Eithr cyfod, a dos i’r ddinas, a dywedir wrthyt pa beth y mae rhaid i ti ei wneuthur.
7
A’r dynion oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, yn clywed y llais yn wir, ond heb weled neb.
8
A chyfododd Shawl oddiar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai ddim; a chan ei dywys erbyn ei law, dygasant ef i mewn i Damascus;
9
ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni fwyttaodd nac yfed.
10
Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Damascus a’i enw Ananias; ac wrtho, mewn gweledigaeth, y dywedodd yr Arglwydd, Ananias; ac efe a ddywedodd, Wele, myfi, Arglwydd.
11
A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Iwdas Shawl wrth ei enw, o Tarsus; canys wele, gweddïo y mae, a gwelodd ŵr,
12
Ananias wrth ei enw, wedi dyfod i mewn a dodi arno ei ddwylaw fel y gwelai eilwaith.
13
Ac attebodd Ananias, Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint yn Ierwshalem;
14
ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriad, i rwymo pawb sy’n galw ar Dy enw.
15
Ac wrtho y dywedodd yr Arglwydd, Dos, canys llestr etholedig i Mi yw hwn, i ddwyn Fy enw ger bron cenhedloedd a brenhinoedd, a meibion Israel.
16
Canys Myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae rhaid iddo eu dioddef er mwyn Fy enw.
17
Ac aeth Ananias ymaith, ac aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi arno ei ddwylaw, dywedodd, Shawl frawd, yr Arglwydd a’m danfonodd, Iesu yr Hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost, fel y gwelych eilwaith ac y’th lanwer â’r Yspryd Glân.
18
Ac yn uniawn y syrthiodd oddiwrth ei lygaid fel pe bai cen, a gwelodd efe eilwaith;
19
ac wedi cyfodi, bedyddiwyd ef; ac wedi cymmeryd bwyd cryfhaodd. Ac yr oedd efe gyda’r disgyblion oedd yn Damascus dalm o ddyddiau.
20
Ac yn uniawn yn y sunagogau y pregethodd efe yr Iesu, mai Efe yw Mab Duw.
21
A synnodd yr holl rai a glywent, a dywedasant, Onid hwn yw’r dyn a anrheithiai yn Ierwshalem y rhai a alwent ar yr enw hwn; ac yma, er mwyn hyn y daeth, fel y dygai hwynt yn rhwym ger bron yr archoffeiriaid?
22
A Shawl a gynnyddai fwy-fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iwddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan arddangos mai Hwn yw y Crist.
23
A phan gyflawnwyd dyddiau lawer, cydymgynghorodd yr Iwddewon i’w ladd ef.
24
Ac hysbyswyd eu cydfwriad i Shawl; a gwylient y pyrth ddydd a nos, fel y lladdent ef.
25
A’r disgyblion a’i cymmerasant liw nos, a thrwy’r mur y gollyngasant ef i wared, gan ei ollwng i lawr mewn cawell.
26
Ac wedi dyfod i Ierwshalem, ceisiai ymgyssylltu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnent ef, gan na chredent ei fod yn ddisgybl.
27
Ond Barnabas, gan ei gymmeryd ef, a’i dug at yr apostolion, a mynegodd iddynt pa fodd y bu iddo ar y ffordd weled yr Arglwydd, ac y llefarodd Efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y llefarai yn hyderus yn enw yr Iesu.
28
Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Ierwshalem, yn llefaru yn hyderus yn enw’r Arglwydd.
29
A llefarai ac ymddadleuai yn erbyn yr Iwddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
30
Ac wedi cael gwybodaeth o hyn, y brodyr a’i dygasant i wared i Cesarea, a danfonasant ef ymaith i Tarsus.
31
Gan hyny, yn wir, yr eglwys trwy holl Iwdea a Galilea a Shamaria a gafodd heddwch, gydag adeiladaeth; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Yspryd Glân y lliosogid.
32
A bu i Petr, pan yn tramwy trwy’r holl barthau, ddyfod i wared hefyd at y saint yn preswylio yn Luda;
33
a chafodd yno ryw ddyn, Aineas wrth ei enw, er’s wyth mlynedd yn gorwedd ar orweddfa, yr hwn oedd glaf o’r parlys;
34
ac wrtho y dywedodd Petr, Aineas, dy iachau y mae Iesu Grist: cyfod, a chyweiria dy wely i’th hun. Ac yn uniawn y cyfododd;
35
ac ei weled ef a fu i bawb oedd yn preswylio yn Luda a Sharon, a hwy a ymchwelasant at yr Arglwydd.
36
Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, yr hwn o’i gyfieithu a elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusenau, y rhai a wnelai.
37
A digwyddodd yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw; ac wedi ei golchi hi, dodasant hi mewn llofft.
38
A chan fod Luda yn agos i Ioppa, y disgyblion wedi clywed fod Petr yno, a ddanfonasant ddau ŵr atto, gan ddeisyf arno, Nac oeda ddyfod trosodd hyd attom.
39
Ac wedi cyfodi, Petr a aeth gyda hwynt; ac ar ei ddyfodiad dygasant ef i fynu i’r llofft; ac yn ei ymyl y safodd yr holl wragedd gweddwon yn gwylo ac yn dangos peisiau a chochlau, y rhai a wnaeth Dorcas tra’r ydoedd gyda hwynt.
40
Ac wedi bwrw allan yr oll o honynt, a dodi ei liniau ar lawr, Petr a weddïodd; a chan droi at y corph, dywedodd, Tabitha, cyfod; a hi a agorodd ei llygaid; a chan weled Petr, cyfododd yn ei heistedd.
41
Ac wedi rhoi iddi ei law, cyfododd efe hi i fynu; ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, gosododd hi ger bron yn fyw.
42
Ac hyspys yr aeth trwy holl Ioppa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43
A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Ioppa gydag un Shimon, barcer.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28