bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 13
Acts 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
1
Ac yr oedd yn Antiochia, yn yr eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon, Barnabas a Shimon yr hwn a elwid Niger, a Lucius y Curenead, a Maenan brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Shawl.
2
Ac a hwy yn gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch, yn awr, i Mi Barnabas a Shawl i’r gwaith at yr hwn y gelwais hwynt.
3
Yna, wedi ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylaw arnynt, y gollyngasant hwynt ymaith.
4
Hwythau, gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a ddaethant i wared i Seleucia, ac oddi yno y mordwyasant ymaith i Cuprus.
5
A phan yr oeddynt yn Shalamus, mynegasant Air Duw yn sunagogau yr Iwddewon; ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn weinidog.
6
Ac wedi tramwy trwy’r holl ynys hyd Paphos, cawsant ryw ŵr o swynwr, gau-brophwyd Iwddewig, a’i enw Bar-ieshu,
7
yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr deallus; hwn, wedi galw atto Barnabas a Shawl, a ddeisyfiodd glywed Gair Duw:
8
ond eu gwrthsefyll hwynt a wnaeth Elymas, y swynwr (canys felly y cyfieithir ei enw ef), gan geisio gwyrdroi y rhaglaw oddiwrth y ffydd.
9
A Shawl, yr hwn a elwir hefyd Paul, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, gan edrych yn graff arno,
10
a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob anfadrwydd, mab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi â gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd, y rhai uniawn?
11
Ac yn awr, wele, llaw yr Arglwydd sydd arnat, a byddi ddall, heb weled yr haul am amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, a chan fyned o amgylch, ceisiai rai i’w arwain erbyn ei law.
12
Yna, gan weled o’r rhaglaw yr hyn a ddigwyddodd, credodd, yn aruthr ganddo wrth athrawiaeth yr Arglwydd.
13
Ac wedi hwylio ymaith o Paphos, Paul a’r rhai gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphulia; ond Ioan, wedi ymadael â hwynt, a ddychwelodd i Ierwshalem;
14
a hwythau, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia; ac wedi myned i’r sunagog ar y dydd Sabbath, eisteddasant;
15
ac ar ol darllen y Gyfraith a’r Prophwydi, danfonodd pennaethiaid y sunagog attynt, gan ddywedyd Brodyr, os oes gair o gyngor genych i’r bobl, traethwch,
16
Ac wedi cyfodi o Paul, ac amneidio â’i law, dywedodd, Gwŷr o Israel, a’r rhai sy’n ofni Duw, gwrandewch.
17
Duw y bobl hyn, Israel, a etholodd ein tadau; ac y bobl a ddyrchafodd Efe yn y preswyliad yngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dug hwynt allan o honi;
18
ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd eu moesau yn yr anialwch;
19
ac wedi dinystrio saith genedl yngwlad Canaan
20
â choelbren y parthodd eu gwlad am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; ac wedi hyny y rhoddes farnwyr hyd Shamuel y prophwyd;
21
ac ar ol hyny y gofynasant frenhin, ac iddynt y rhoddes Duw Shawl, mab Cish, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mlynedd;
22
ac wedi ei symmud ef, cyfododd Efe Dafydd iddynt, yn frenhin, i’r hwn y tystiolaethodd, gan ddywedyd, Cefais Dafydd, mab Ieshe, gŵr yn ol Fy nghalon, yr hwn a wna Fy holl ewyllys.
23
O had hwn, Duw, yn ol Ei addewid, a ddug i Israel Iachawdwr, Iesu, gwedi rhag-bregethu o Ioan,
24
o flaen Ei ddyfodiad i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25
A phan gyflawnai Ioan ei redfa, dywedodd, Pa beth y tybiwch fy mod i? Nid myfi yw Efe: eithr wele, dyfod ar fy ol y mae yr Hwn nad wyf deilwng i ddattod esgidiau Ei draed.
26
Brodyr, meibion cenedl Abraham, a’r rhai yn eich plith y sy’n ofni Duw, i chwi y mae Gair yr iachawdwriaeth hon wedi ei ddanfon,
27
canys y rhai yn trigo yn Ierwshalem a’u tywysogion, gan nad adwaenant Ef na lleisiau y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabbath, gan Ei farnu Ef a’u cyflawnasant.
28
Ac heb gael Ynddo ddim achos angau, dymunasant ar Pilat y lleddid Ef.
29
A phan gwblhasant yr holl bethau a ’sgrifenasid am Dano, wedi Ei dynnu i lawr oddi ar y pren, dodasant Ef mewn bedd.
30
Ond Duw a’i cyfododd Ef o feirw, ac Efe a welwyd
31
ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fynu gydag Ef o Galilea i Ierwshalem, y rhai, yr awr hon, ydynt Ei dystion wrth y bobl.
32
Ac nyni sy’n efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, mai hwn y mae Duw wedi ei gyflawni i’n plant, gan gyfodi yr Iesu;
33
fel ag yn yr ail psalm yr ysgrifenwyd, “Fy Mab Tydi ydwyt, Myfi heddyw a’th genhedlais;”
34
ac y cyfododd Ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd, “Rhoddaf Iddo drugareddau sicr Dafydd:”
35
o herwydd Iddo mewn psalm arall ddweud, “Ni roddi Dy Sanct i weled llygredigaeth.”
36
Canys Dafydd, yn wir, wedi iddo yn ei genhedlaeth wasanaethu cynghor Duw, a hunodd, ac a roddwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth;
37
ond yr Hwn y bu i Dduw Ei gyfodi, ni welodd lygredigaeth.
38
Bydded hyspys, gan hyny, i chwi, frodyr, mai trwy Hwn i chwi y mynegir maddeuant pechodau:
39
ac oddi wrth yr holl bethau na allech trwy Gyfraith Mosheh eich cyfiawnhau oddi wrthynt, trwy Hwn pob un a gredo a gyfiawnheir.
40
Edrychwch, gan hyny, na ddelo arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi,
41
“Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflenwch; Canys gwaith yr wyf Fi yn ei weithio yn eich dyddiau, Gwaith na chredwch mo’no er i neb ei fynegi i chwi.”
42
Ac wrth fyned allan o honynt, deisyfiasant gael ar y Sabbath nesaf fynegi iddynt yr ymadroddion hyn.
43
A phan ollyngwyd y cyfarfod ymaith, canlynodd llawer o’r Iwddewon ac o’r proselytiaid defosiynol ar ol Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngras Duw.
44
A’r Sabbath nesaf, bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i glywed Gair Duw.
45
A chan weled o’r Iwddewon y torfeydd, llanwyd hwynt o eiddigedd, a gwrth-ddywedasant yn erbyn y pethau a leferid gan Paul, gan gablu.
46
A chan lefaru yn hyderus o Paul a Barnabas hefyd, dywedasant, Wrthych chwi yn gyntaf yr oedd rhaid i Air Duw gael ei lefaru; ac o herwydd ei wrthod yr ydych, ac yn barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol, wele, troi at y cenhedloedd yr ydym;
47
canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, “Gosodais di yn oleuni i’r cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
48
Ac wrth glywed hyn, y cenhedloedd a lawenychent ac a ogoneddent Air Duw; a chredodd cynnifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol.
49
A dygpwyd Gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad.
50
Ond yr Iwddewon a annogasant y gwragedd defosiynol, y rhai anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a bwriasant hwynt allan o’u terfynau;
51
ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a aethant i Iconium;
52
a’r disgyblion a lanwyd o lawenydd ac o’r Yspryd Glân.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28