bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 24
Acts 24
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac ar ol pum niwrnod, daeth yr archoffeiriad Ananias i wared, ynghyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertulus, y rhai a hyspysasant i’r rhaglaw yn erbyn Paul.
2
A phan alwesid ef, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef gan ddywedyd,
3
Gan mai llawer o heddwch sydd genym trwot ti, a diwygiadau yn cael eu gwneud i’r genedl hon trwy dy rag-welediad di, ymhob modd ac ymhob man y derbyniwn ef, O ardderchoccaf Ffelics, gyda phob diolch.
4
Ond fel na flinwyf di rhy hir, deisyfiaf arnat ein gwrando mewn ychydig eiriau, o’th hynawsedd.
5
Canys wedi cael y dyn hwn yn bla, ac yn codi terfysgau ymhlith yr holl Iwddewon y sydd trwy’r byd, ac yn bennaeth sect y Natsareaid;
6
yr hwn hefyd a geisiodd halogi y deml; yr hwn hefyd a ddaliasom;
8
a chan yr hwn y gelli, gan ei holi ef, wybod am yr holl bethau hyn o’r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef.
9
A chyd-ymosod arno a wnaeth yr Iwddewon, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
10
Ac attebodd Paul, ar ol amneidio o’r rhaglaw iddo i ddywedyd, Gan wybod mai er’s llawer o flynyddoedd yr wyt ti yn farnwr i’r genedl hon, yn galonog, o ran y pethau mewn perthynas â mi,
11
yr amddiffynaf fy hun, a thi yn medru gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod i mi er pan aethum i fynu i addoli yn Ierwshalem:
12
ac nid yn y deml y cawsant fi yn ymddadleu â neb neu yn codi terfysg o’r bobl, nac yn y sunagogau, nac yn y ddinas.
13
A phrofi i ti ni allant, y pethau am y rhai y maent yn awr yn fy nghyhuddo.
14
Ond cyfaddefaf hyn i ti, mai yn ol y Grefydd yr hon a alwant “sect,” felly yr wyf yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu yr holl bethau y sydd yn ol y Gyfraith, ac a ysgrifenwyd yn y Prophwydi;
15
a gobaith genyf tuag at Dduw, yr hwn y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod adgyfodiad ar fedr bod, o’ r cyfiawnion ac o’ r anghyfiawnion hefyd.
16
Ac yn hyn yr wyf fi fy hun hefyd yn ymdrechu, i fod â chydwybod ddidramgwydd genyf tuag at Dduw a dynion yn wastadol.
17
Ac ar ol blynyddoedd lawer, daethum i ddwyn elusen i’m cenedl, ac offrymmau;
18
ac ar eu canol y cawsant fi, wedi fy nglanhau, yn y deml, nid gyda thwrf na chyda therfysg.
19
Ond rhai Iwddewon o Asia, y rhai a ddylasent fod yn bresennol ger dy fron, a chyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn;
20
neu bydded i’r rhai hyn eu hunain ddywedyd pa anghyfiawnder a gawsant wrth sefyll o honof ger bron y cynghor,
21
arall nag ynghylch yr un llef hon, yr hon a lefais pan yn eu plith y safwn, sef Am adgyfodiad y meirw myfi a fernir heddyw ger eich bron.
22
Ond eu hoedi a wnaeth Ffelics, gan wybod yn fanylach y pethau ynghylch y Grefydd, gan ddywedyd, Pan fydd Lusias y milwriad, wedi dyfod i wared, penderfynaf eich matterion;
23
wedi archu i’r canwriad iddo gael ei gadw, ac i fod ag ysgafnhad ganddo, ac na rwystrai i neb o’i berthynasau ei wasanaethu ef.
24
Ac ar ol rhai dyddiau, wedi dyfod o Ffelics ynghyda Drusilla ei wraig, a hi yn Iwddewes, danfonodd am Paul,
25
a chlywodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu: ac wrth ymresymmu o hono am gyfiawnder a diweirdeb a’r farn ar ddyfod, wedi myned yn ddychrynedig, Ffelics a attebodd, Am yr amser presennol, dos ymaith; ond hamdden a gymmeraf, a galwaf am danat;
26
ar yr un pryd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd, yn fynychach y danfonai am dano, ac y chwedleuai ag ef.
27
Ond dwy flynedd wedi eu cyflawni, cafodd Ffelics olynydd, Porcius Ffestus; a chan ewyllysio ennill ffafr gyda’r Iwddewon, gadawodd Paul yn rhwym.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28