bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 16
Acts 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
A daeth efe hefyd i Derbe ac i Lustra; ac wele, rhyw ddisgybl oedd yno, a’i enw Timothëus, mab i wraig o Iwddewes,
2
yr hon a gredai, ond ei dad oedd Roegwr: ac iddo y tystiolaethid gan y brodyr yn Lustra ac Iconium.
3
Hwn yr ewyllysiodd Paul iddo fyned allan gydag ef; ac, wedi ei gymmeryd, amdorrodd arno o achos yr Iwddewon oedd yn y lleoedd hyny, canys gwyddent, bawb o honynt, mai Groegwr oedd ei dad ef.
4
Ac fel yr ymdeithient trwy’r dinasoedd, traddodasant iddynt y dedfrydau i’w cadw, y rhai a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Ierwshalem.
5
Yr eglwysi, gan hyny, a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beunydd.
6
A thramwyasant trwy Phrugia a gwlad Galatia, wedi eu rhwystro gan yr Yspryd Glân rhag llefaru’r Gair yn Asia;
7
ac wedi dyfod cyferbyn â Musia ceisient fyned i Bithunia; ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.
8
Ac wedi myned heibio i Musia, daethant i wared i Troas.
9
A gweledigaeth, liw nos, a ymddangosodd i Paul: rhyw ŵr o Macedonia oedd yn sefyll ac yn deisyfu arno, ac yn dywedyd, Wedi dyfod trosodd i Macedonia, cymmorth ni.
10
A phan welsai efe y weledigaeth, yn uniawn y ceisiasom fyned i Macedonia,
11
gan gasglu alw o’r Arglwydd arnom i efengylu iddynt.
12
Gan hwylio ymaith, gan hyny, o Troas, cyrchasom yn uniawn i Samothracia, a thrannoeth i Nea Polis, ac oddi yno i Philippi, yr hon yw brif- ddinas yr ardal, dinas o Macedonia, trefedigaeth Rufeinig;
13
ac yr oeddym ynddi, yn aros ddyddiau rai. Ac ar y dydd Sabbath, aethom allan tu allan i’r porth i lan afon, lle y tybiem yr oedd lle gweddi,
14
ac wedi eistedd o honom llefarasom wrth y gwragedd a ddaethent ynghyd. A rhyw wraig a’i henw Ludia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thuateira, un yn addoli Duw, a wrandawai;
15
a’r Arglwydd a agorodd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi ac ei theulu, deisyfiodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod yn ffyddlawn i’r Arglwydd,
16
wedi dyfod i mewn i’m tŷ, arhoswch yno; a chymhellodd ni. A digwyddodd wrth fyned o honom i’r lle gweddi, i ryw langces, yr hon oedd a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod â ni, yr hon a ddygai ennill mawr i’w meistriaid, trwy ddewinio.
17
Hon, gan ganlyn Paul a ni, a waeddai, gan ddywedyd, Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, y rhai sy’n mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
18
A hyn a wnelai hi lawer o ddyddiau. A Paul yn flin ganddo, a chan droi, a ddywedodd wrth yr yspryd, Gorchymynaf i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi; ac allan y daeth efe yr awr honno.
19
A chan weled o’i meistriaid yr aethai gobaith eu hennill ymaith, wedi cymmeryd gafael ar Paul a Silas, llusgasant hwynt i’r farchnadfa ger bron y llywodraethwyr;
20
ac wedi eu dwyn hwynt at y swyddogion, dywedasant, Y dynion hyn sy’n cythryblu ein dinas,
21
a hwy yn Iwddewon, a mynegant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlawn i ni eu derbyn na’u gwneuthur, gan mai Rhufeinwyr ydym.
22
A chyfododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn hwynt, a’r swyddogion, wedi rhwygo eu cochlau, a orchymynasant eu curo hwy â gwiail.
23
Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialennodiau, taflasant hwynt i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddiogel;
24
ac efe, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwynt i’r lle mwyaf i mewn o’r carchar, ac eu traed a wnaeth efe yn sicr yn y cyffion.
25
A thua hanner nos, Paul a Silas, yn gweddïo, a ganent hymnau i Dduw, a gwrando arnynt yr oedd y carcharorion;
26
ac yn ddisymmwth daeargryn mawr a fu, fel y siglwyd seiliau’r carchardy; ac agorwyd, yn uniawn, y drysau oll, a rhwymau pawb a ddattodwyd.
27
Ac wedi deffro o geidwad y carchar, a chan weled drysau’r carchar yn agored, wedi tynnu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied y diengasai y carcharorion.
28
A llefain â llef uchel a wnaeth Paul, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid, canys yr oll o honom ydym yma.
29
Ac wedi galw am oleu, neidiodd efe i mewn, a than grynu, syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas;
30
ac wedi eu dwyn hwynt allan, dywedodd, Meistriaid, pa beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?
31
A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi, ti a’th dŷ.
32
A llefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyda phawb oedd yn ei dŷ.
33
Ac wedi eu cymmeryd yr awr honno o’r nos, golchodd eu briwiau; a bedyddiwyd ef a’r eiddo oll yn y man.
34
Ac wedi eu dwyn hwynt i’w dŷ, gosododd fwyd ger eu bron, a gorfoleddodd ynghyda’i holl deulu, gan gredu yn Nuw.
35
A’r dydd wedi dyfod danfonodd y swyddogion y rhingyllau, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyny;
36
a mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Paul, gan ddywedyd, Danfonodd y swyddogion am eich gollwng yn rhyddion: yn awr, gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.
37
A Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi ein curo ni yn gyhoedd, heb ein condemnio, a ninnau yn Rhufeinwyr, bwriasant ni i garchar; ac yn awr, ai yn ddirgel y bwriant ni allan? Nid felly; eithr wedi dyfod eu hunain, bydded iddynt ein dwyn ni allan.
38
A mynegodd y rhingyllau wrth y swyddogion y geiriau hyn;
39
ac ofnasant hwy, pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt; ac wedi dyfod, deisyfiasant arnynt; ac wedi eu dwyn allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o’r ddinas.
40
Ac wedi myned allan o’r carchar, aethant i mewn at Ludia; ac wedi gweled y brodyr, cysurasant hwynt, ac aethant allan.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28