bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 5
Acts 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
A rhyw ddyn, Chananiah wrth ei enw, ynghyda Shappira ei wraig,
2
a werthodd berchenogaeth, ac a ddodes heibio beth o’r gwerth, gyda gwybodaeth o ran ei wraig,
3
ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân,
4
ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon?
5
Ni chelwyddaist i ddynion, eithr i Dduw. Ac wedi clywed o Chananiah y geiriau hyn, syrthiodd a threngodd; a daeth ofn mawr ar bawb a’ u clywsant.
6
Ac wedi cyfodi o’r gwŷr ieuaingc, cyd-rwymasant ef; ac wedi ei ddwyn ef allan, claddasant ef.
7
A bu yspaid oddeutu tair awr, ac ei wraig, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai,
8
a ddaeth i mewn: ac wrthi yr attebodd Petr, Dywaid wrthyf ai er cymmaint y gwerthasoch y tir?
9
A hi a ddywedodd, Ië, er cymmaint. A Petr a ddywedodd wrthi, Paham y cyttunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy ŵr, wrth y drws y maent, a dygant allan dithau.
10
A syrthiodd hi yn uniawn wrth ei draed, a threngodd: ac wedi dyfod i mewn y gwŷr ieuaingc a’i cawsant hi yn farw; ac wedi ei dwyn allan, claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11
A daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glybu y pethau hyn.
12
A thrwy ddwylaw yr apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau ym mhlith y bobl, ïe, llawer; ac yr oeddynt, o un fryd, i gyd yn nghyntor Shalomon.
13
Ond o’r lleill nid oedd neb a feiddiai ymlynu wrthynt; eithr eu mawrhau hwynt a wnaeth y bobl,
14
ac i radd mwy yr ychwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliosydd yn gystal o ddynion ac o wragedd,
15
hyd onid i’r llydanfeydd y dygent allan y cleifion ac y’u gosodent ar welyau a gorweddfëydd, fel wrth ddyfod o Petr y byddai, beth bynnag, i’w gysgod gysgodi ar ryw un o honynt.
16
A daeth ynghyd hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Ierwshalem, yn dwyn cleifion a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.
17
Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Tsadwceaid), llanwyd hwy o genfigen,
18
a dodasant eu dwylaw ar yr apostolion, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth gyffredin:
19
ac angel yr Arglwydd liw nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan,
20
dywedodd, Ewch, a sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r Bywyd hwn.
21
Ac wedi clywed hyn, aethant i mewn, tua’r wawr, i’r deml, ac yr oeddynt yn dysgu. Ac wedi dyfod o’r archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Cynghor a holl senedd meibion Israel, a danfonasant i’r carchardy i’w dwyn hwynt ger bron.
22
A’r gweinidogion wedi dyfod, ni chawsant hwynt yn y carchar;
23
ac wedi dychwelyd, mynegasant, gan ddywedyd, Y carchar a gawsom wedi ei gau gyda phob sicrwydd, a’r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau; ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.
24
A phan glywsant y geiriau hyn, cadben y deml a’r archoffeiriaid a ddyrysid yn eu cylch, pa beth a ddeuai o hyn.
25
Ac wedi dyfod o ryw un, mynegodd iddynt, Wele, y gwŷr a ddodasoch yn y carchar, y maent yn y deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl.
26
Yna, wedi myned ymaith o gadben y deml ynghyda’r gweinidogion, daeth â hwynt, nid gyda thrais, canys ofnent y bobl, rhag eu llabyddio.
27
Ac wedi dyfod â hwynt, gosodasant hwynt yn y Cynghor;
28
a gofynodd yr archoffeiriad iddynt, gan ddywedyd, A gorchymyn y gorchymynasom i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn: ac wele, llanwasoch Ierwshalem â’ch dysgad, a mynnech ddwyn arnom waed y dyn hwn.
29
A chan atteb, Petr a’r apostolion a ddywedasant, Ufuddhau i Dduw sydd raid yn hytrach nag i ddynion.
30
Duw ein tadau a gyfododd i fynu yr Iesu, yr Hwn, chwi a’i lladdasoch gan Ei grogi ar bren.
31
Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
32
A nyni ydym dystion o’r pethau hyn, a’r Yspryd Glân, yr Hwn y mae Duw yn Ei roddi i’r rhai sy’n ufuddhau Iddo.
33
A hwy, wedi clywed hyn, a dorrid i’r byw, a mynnent eu lladd hwynt.
34
Ac wedi cyfodi o ryw un yn y Cynghor, Pharishead a’i enw Gamaliel, dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, archodd osod y dynion allan am ychydig,
35
a dywedodd wrthynt, Gwŷr Israel, cymmerwch ofal ym matter y dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur:
36
canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas, gan ddywedyd ei fod efe yn rhyw un, â’r hwn yr ymgysylltodd rhifedi o ddynion, ynghylch pedwar cant; ac efe a laddwyd, a’r holl rai cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a wasgarwyd ac a wnaed yn ddiddym.
37
Ar ol hwn y cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r rhestriad, ac a dynnodd bobl ar ei ol; ac am dano ef y darfu; a’r holl rai, cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a chwalwyd.
38
Ac yr awr hon dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, canys os o ddynion y mae’r cynghor hwn neu’r gwaith hwn, diddymmir ef;
39
ond os o Dduw y mae, nis gellwch eu diddymmu hwynt; rhag ysgatfydd eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.
40
Ac ufuddhasant iddo; ac wedi galw yr apostolion attynt, ar ol eu curo hwynt, gorchymynasant iddynt beidio â llefaru yn enw’r Iesu, a gollyngasant hwynt yn rhyddion.
41
Hwy, yn wir, gan hyny, a aethant, oddi ger bron y Cynghor, yn llawenychu am eu cyfrif yn deilwng o’u hammerchu dros yr Enw.
42
A pheunydd yn y deml a chartref ni pheidiasant â dysgu ac ag efengylu Crist Iesu.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28