bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 23
Acts 23
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
A chan edrych yn graff o Paul ar y cynghor, dywedodd, Brodyr, myfi, a phob cydwybod dda y bu’m fyw ger bron Duw hyd y dydd heddyw.
2
A’r archoffeiriad Ananias a archodd i’r rhai yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau.
3
Yna Paul a ddywedodd wrtho ef, Dy daro di a wnaiff Duw, bared wedi ei wyn-galchu! Ac a wyt ti yn eistedd i’m barnu yn ol y Gyfraith, a chan droseddu’r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i?
4
A’r rhai yn sefyll yn ei ymyl a ddywedasant, Ai archoffeiriad Duw a ddifenwi?
5
A dywedodd Paul, Nis gwyddwn, frodyr, ei fod yn archoffeiriad, canys ysgrifenwyd, “Am bennaeth dy bobl ni ddywedi yn ddrwg.”
6
A chan wybod o Paul fod un rhan o’r Tsadwceaid, a’r llall o’r Pharisheaid, gwaeddodd yn y cynghor, Brodyr, myfi, Pharishead wyf, mab i Pharisheaid; am obaith ac adgyfodiad y meirw myfi a’m bernir.
7
A phan hyn a ddywedasai efe, cyfododd ymryson rhwng y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, a rhannwyd y lliaws;
8
canys y Tsadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac adgyfodiad nac angel nac yspryd; ond y Pharisheaid a addefant y ddau.
9
A bu gwaedd fawr; ac wedi codi i fynu o rai o’r ysgrifenyddion o ran y Pharisheaid, ymrafaelasant, gan ddywedyd, Nid oes dim drwg a gawn yn y dyn hwn: ac os yspryd a lefarodd wrtho, neu angel —.
10
A phan mawr oedd y terfysg, y milwriad, gan ofni tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i’r llu, gan fyned i wared, ei gipio ef o’u plith, ac ei ddwyn ef i’r castell.
11
A’r nos ganlynol, gan sefyll gerllaw iddo, yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd hyderus, canys fel y tystiolaethaist am Danaf yn Ierwshalem, felly y mae rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12
A phan aeth hi yn ddydd, gan wneuthur bradwriaeth, yr Iwddewon a rwymasant eu hunain â diofryd gan ddywedyd na fwyttaent nac yfed hyd nes iddynt ladd Paul.
13
Ac yr oeddynt yn fwy na deugain a wnaethant y cyngrair hwn;
14
y rhai wedi myned at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a ddywedasant, A diofryd y rhwymasom ein hunain nad archwaethwn ddim nes lladd o honom Paul.
15
Yn awr, gan hyny, hyspyswch chwi i’r milwriad, ynghyda’r cynghor, am iddo ei ddwyn ef i wared attoch megis ar fedr cael gwybod yn fanylach y pethau yn ei gylch ef; a nyni, cyn nesau o hono, ydym barod i’w ladd ef.
16
Ac wedi clywed o fab chwaer Paul y cynllwyn hwn, wedi dyfod a myned i mewn i’r castell, mynegodd i Paul.
17
Ac wedi galw o Paul un o’r canwriaid atto, dywedodd, Dwg y gŵr ieuangc hwn at y milwriad, canys y mae ganddo ryw beth i’w fynegi iddo.
18
Efe, gan hyny, wedi ei gymmeryd ef, a’i dug at y milwriad, a dywedodd, Y carcharor Paul, wedi fy ngalw atto, a ofynodd i mi ddwyn y gŵr ieuangc hwn attat, yr hwn sydd a chanddo ryw beth i’w ddywedyd wrthyt.
19
Ac wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a chilio o’r neilldu, y milwriad a ofynodd, Pa beth yw’r hyn sydd genyt i’w fynegi i mi?
20
A dywedodd efe, Yr Iwddewon a gyttunasant i ofyn genyt y bo i ti yforu ddwyn i wared Paul i’r cynghor, megis ar fedr o honot ymofyn rhyw faint fanylach yn ei gylch ef.
21
Ond na chymmer di dy berswadio ganddynt, canys cynllwyn iddo y mae rhai o honynt, mwy na deugeinwr, y rhai a rwymasant eu hunain â diofryd na fwyttaent nac yfed nes ei ladd ef: ac yn awr parod ydynt, yn disgwyl y gorchymyn genyt ti.
22
Y milwriad, gan hyny, a ollyngodd ymaith y gŵr ieuangc, wedi gorchymyn iddo beidio a dweud i neb yr hyspysaist y pethau hyn i mi.
23
Ac wedi galw atto ryw ddau o’r canwriaid, dywedodd, Parottowch ddau gant o filwyr fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thrugain o wŷr meirch, a dau gant o ffyn-wewyr, ar y drydedd awr o’r nos,
24
a darparwch ysgrubliaid, fel, wedi gosod Paul arnynt,
25
y dygont ef yn ddiogel at Ffelics y rhaglaw; wedi ysgrifenu o hono lythyr a’r dull hwn iddo,
26
Claudius Lysias at yr ardderchoccaf raglaw Ffelics, yn danfon annerch.
27
Y dyn hwn, wedi ei ddal gan yr Iwddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, wedi dyfod arnynt â’r llu, a gymmerais oddi arnynt, wedi deall mai Rhufeiniad ydyw.
28
A chan chwennych gwybod yr achos o’r hwn y cyhuddent ef, dygais ef wared i’w cynghor.
29
A chefais y cyhuddid ef am gwestiynnau o’u Cyfraith, ond heb ddim cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau.
30
A phan hyspyswyd i mi gynllwyn i’r gŵr, ar fedr ei wneud, allan o law danfonais ef attat, wedi gorchymyn i’r cyhuddwyr hefyd ddywedyd yn ei erbyn ger dy fron. Bydd iach.
31
Y milwyr, gan hyny, yn ol yr hyn a orchymynwyd iddynt, wedi cymmeryd Paul, a’i dygasant, liw nos, i Antipatris;
32
a thrannoeth, gan adael y gwŷr meirch i fyned gydag ef,
33
dychwelasant i’r castell; a’r rhai hyny, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr i’r rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron.
34
Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba dalaith yr oedd, ac wedi clywed mai o Cilicia yr ydoedd,
35
Gwrandawaf di, ebr efe, pan fo dy gyhuddwyr yn bresennol; wedi gorchymyn mai yn llys Herod y cedwid ef.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28