bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 27
Acts 27
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan benderfynwyd morio o honom ymaith i’r Ital, traddodasant Paul, a rhyw garcharorion eraill hefyd, i ganwriad a’i enw Iwlius, o fyddin Augustus.
2
Ac wedi dringo i long o Adramatium, ar fedr hwylio i leoedd arforol Asia, aethom allan o’r porthladd, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica.
3
A thrannoeth y troisom i mewn i Tsidon; ac Iwlius yn ymddwyn yn garedigol tuag at Paul, a ganiattaodd iddo fyned at ei gyfeillion a chael ymgeledd.
4
Ac wedi myned oddi yno, hwyliasom dan Cuprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.
5
Ac wedi hwylio o honom dros y môr sydd ger llaw Cilicia a Pamphulia, daethom i Mura, dinas yn Lucia.
6
Ac yno wedi cael o’r canwriad long o Alecsandria, yn hwylio i’r Ital, gosododd ni ynddi.
7
A llawer o ddyddiau yr hwyliasom yn anniben, a phrin y daethom ar gyfer Cnidus am na adawai y gwynt i ni, a hwyliasom dan Creta,
8
ar gyfer Salome; ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, daethom i ryw le a elwir Caloi Limenes, agos at yr hwn yr oedd y ddinas Lasea.
9
A llawer o amser wedi myned heibio, a morio yn awr yn enbyd, a chan fod yr Ympryd yn awr wedi myned heibio,
10
cynghorodd Paul, gan ddywedyd wrthynt, Dynion, gwelaf mai gyda sarhad a llawer o golled, nid yn unig i’r llwyth a’r llong, eithr i’n heinioes ni hefyd, y mae’r morio ar fedr bod.
11
Ond y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul.
12
A chan mai anghyfleus i auafu oedd y porthladd, y rhan fwyaf a roisant gynghor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i auafu yno, yr hwn sydd borthladd yn Creta, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain a’r deheu-ddwyrain.
13
A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, gan feddwl y cawsent eu hamcan, wedi codi’r angorau, moriasant heibio yn agos i Creta.
14
Ac ar ol nid llawer o amser y curodd i lawr oddi wrthi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Eur-acwilo.
15
A’r llong wedi ei chipio, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ymroisom iddo a dygpwyd ni ganddo.
16
A than ryw ynys fechan y rhedasom; a gallasom gyda gwaith mawr sicrhau y bad;
17
ac wedi ei godi ef i fynu, cynnorthwyon a ddefnyddiasant gan wregysu y llong oddi dani; a chan ofni y bwrid hwynt ar y Surtis, gollyngasant yr hwyl, ac felly y dygpwyd hwynt.
18
A chan yn ddirfawr y’n teflid gan y dymmestl, trannoeth y taflent allan y llwyth;
19
a’r trydydd dydd, â’u dwylaw eu hunain y bwriasant allan daclau’r llong.
20
A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am lawer o ddyddiau, a thymmestl nid bychan yn pwyso arnom, dygpwyd ymaith o hyny allan bob gobaith o’n bod yn gadwedig.
21
A hir ddirwest wedi bod, yna y safodd Paul yn eu canol, a dywedodd, Yr oedd rhaid, ddynion, i chwi, gan eich perswadio genyf fi, beidio â myned allan o Creta ac ynnill y sarhad yma a’r golled.
22
Ac yr awr hon annogaf chwi i fod yn galonus, canys coll einioes ni fydd ddim i chwi, eithr coll y llong;
23
canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr Hwn a’m piau, a’r Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu, yn dywedyd, Nac ofna Paul;
24
ger bron Cesar y mae rhaid i ti sefyll; ac, wele, rhoddes Duw i ti yr holl rai sy’n morio gyda thi.
25
Gan hyny, byddwch galonus, ddynion; canys credaf Dduw mai felly y bydd, yn ol y modd y llefarwyd wrthyf.
26
Ond ar ryw ynys y mae rhaid ein bwrw.
27
A phan y bedwaredd nos ar ddeg ydoedd, ac ein dwyn yma ac accw ym mor Adria, tua hanner nos, tybiodd y morwyr eu bod yn nesau at ryw wlad;
28
ac wedi plymio, cawsant ugain gwrhyd; ac wedi myned yspaid byr a phlymio drachefn, cawsant bymtheg gwrhyd;
29
a chan ofni rhag arleoedd geirwon y’n bwrid, o’r pen ol y bwriasant allan bedair angor, a dymunasant ei myned hi yn ddydd.
30
A’r llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i wared i’r môr yn rhith mai o’r pen blaen i’r llong yr oeddynt ar fedr rhoddi allan angorau,
31
dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Oni bydd i’r rhai hyn aros yn y llong, chwychwi ni ellwch fod yn gadwedig.
32
Yna y milwyr a dorrasant raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
33
A thra yr oedd y dydd ar fedr dyfod, annogodd Paul bawb o honynt i gymmeryd lluniaeth, gan ddywedyd, Y pedwarydd dydd ar ddeg yw heddyw yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymmeryd dim;
34
gan hyny, annogaf chwi i gymmeryd lluniaeth, canys hyn, er eich diogelwch y mae, canys i neb rhyw un o honoch ni bydd blewyn oddi ar ei ben yn golledig.
35
Ac wedi dywedyd y geiriau hyn, a chymmeryd bara, diolchodd i Dduw yngwydd pawb; ac wedi ei dori ef, dechreuodd fwytta.
36
Ac wedi myned yn galonus, pawb o honynt hwythau hefyd a gymmerasant luniaeth.
37
Ac yr oeddym yn y llong, yr holl eneidiau o honom, yn ddau gant ac un ar bymtheg a thrugain.
38
Ac wedi eu digoni o luniaeth, ysgafnhaent y llong gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.
39
A phan aeth hi yn ddydd, y tir nid adwaenent; ond rhyw gilfach a ganfuant, i’r hon yr oedd traeth, yr hwn yr ymgynghorasant a allent wthio’r llong arno.
40
A’r angorau gan eu bwrw hwynt ymaith, a adawsant yn y môr, ar yr un pryd yn gollwng rhwymau’r llywiau; ac wedi codi’r hwyl-flaen i’r gwynt, ceisiasant y traeth.
41
Ac wedi syrthio i le deufor-gyfarfod, gyrrasant y llong i’r traeth; a’r pen blaen iddi a darawodd ac a arhosodd yn ddiysgog; ond y pen ol a ymddattodai gan nerth y tonnau.
42
A chyngor y milwyr oedd lladd y carcharorion, rhag i neb o honynt, gan nofio allan, ddiangc:
43
ond y canwriad, yn chwennych cadw Paul, a’u rhwystrodd rhag eu hamcan, ac a archodd i’r rhai a fedrent nofio, ymfwrw i’r môr, a myned yn gyntaf i’r tir;
44
ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw bethau o’r llong. Ac felly y digwyddodd i bawb ddyfod yn ddiangol i’r tir.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28