bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 11
Acts 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A chlywodd yr apostolion a’r brodyr oedd yn Iwdea, y bu i’r cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw.
2
A phan esgynodd Petr i Ierwshalem, ymrysonodd y rhai o’r amdorriad yn ei erbyn ef,
3
gan ddywedyd, At wŷr diamdorredig yr aethost i mewn, a bwytteaist gyda hwynt.
4
A dechreuodd Petr ac adroddodd y peth iddynt mewn trefn,
5
gan ddywedyd, Myfi oeddwn yn ninas Ioppa, yn gweddïo; a gwelais, mewn llewyg, weledigaeth, ddisgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, wedi ei gollwng i lawr, erbyn ei phedair congl, o’r nef;
6
a daeth hi hyd attaf; i’r hon yn graff yr edrychais, a gwelais bedwar-carnolion y ddaear, a’r ymlusgiaid,
7
ac ehediaid y nef; a chlywais lais yn dywedyd wrthyf,
8
Cyfod, Petr, lladd a bwytta; a dywedais, Nid er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan ni ddaeth erioed i mewn i’m genau.
9
Ac attebodd llais eilwaith, o’r nef, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin.
10
A hyn a ddigwyddodd dair gwaith; a thynwyd y cwbl i fynu drachefn i’r nef.
11
Ac wele, yn uniawn tri wŷr a safasant wrth y tŷ yn yr hwn yr oeddwn, wedi eu danfon o Cesarea attaf.
12
Ac wrthyf y dywedodd yr Yspryd i fyned gyda hwynt heb ammeu dim. Ac yr aeth gyda mi y chwe brodyr hyn hefyd; ac aethom i mewn i dŷ y gŵr;
13
a mynegodd efe i ni pa fodd y gwelsai yr angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd, Danfon i Ioppa,
14
a gyr am Shimon a gyfenwir Petr, yr hwn a lefara ymadroddion wrthyt, trwy y rhai yr achubir di a’th holl dŷ.
15
Ac wrth ddechreu o honof lefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt,
16
fel arnom ninnau yn y dechreuad: a chofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân.
17
Os, gan hyny, y gyffelyb rodd a roddodd Duw iddynt hwy ag i ninnau y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, myfi, pwy oeddwn yn alluog i luddias Duw?
18
Ac wedi clywed y pethau hyn, distawsant, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Felly i’r cenhedloedd hefyd y mae Duw wedi rhoddi edifeirwch i fywyd.
19
Gan hyny, ynte, y rhai a wasgaresid o herwydd y blinder a ddigwyddasai o achos Stephan, a dramwyasant hyd at Phenice a Cuprus ac Antiochia, heb lefaru y Gair wrth neb oddieithr yn unig wrth Iwddewon:
20
ac yr oedd rhai o honynt yn wŷr o Cuprus ac o Curene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth yr Iwddewon Groegaidd hefyd, gan efengylu yr Arglwydd Iesu;
21
ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; a nifer mawr, y rhai a gredasant, a droisant at yr Arglwydd.
22
A chlybuwyd y gair yng nghlustiau yr eglwys oedd yn Ierwshalem, am danynt; a danfonasant allan Barnabas hyd at Antiochia;
23
ac efe, wedi dyfod a gweled gras Duw, a lawenychodd, a chynghorodd bawb o honynt, â llwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd,
24
canys yr oedd efe yn ŵr da ac yn llawn o’r Yspryd Glân a ffydd;
25
ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd. Ac aeth efe allan i Tarsus, i edrych am Shawl, ac wedi ei gael ef, daeth ag ef i Antiochia;
26
a bu iddynt hefyd am flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys a dysgu tyrfa fawr; ac yn gyntaf yn Antiochia y galwyd y disgyblion yn Gristionogion.
27
Ac yn y dyddiau hyn daeth prophwydi i wared o Ierwshalem i Antiochia:
28
ac wedi cyfodi o un o honynt a’i enw Agabus, arwyddoccaodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar fedr bod dros yr holl fyd; yr hwn a ddigwyddodd dan Claudius:
29
a’r disgyblion, fel yr oedd y modd gan neb, a benderfynasant, bob un o honynt, ddanfon at y weinidogaeth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Iwdea.
30
A hyn hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Shawl.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28